Cael ei hadnabod fel gwraig a mam i wŷr amlwg ond 'roedd mwy i Sis'

Elizabeth Jane Jones (Sis) yn ifancFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Elizabeth Jane Jones (Sis) yn ifanc

  • Cyhoeddwyd

Yn amlach na pheidio fel gwraig i'r Parchedig Gerallt Jones a mam i Huw Ceredig, Dafydd Iwan, Arthur Morus ac Alun Ffred y cai Elizabeth Jane Jones (Sis) ei hadnabod ond roedd llawer mwy i Sis, medd ei mab ieuengaf sydd newydd gyhoeddi llyfr o'i gwaith.

"Roedd Mam yn athrawes cerdd a llên a bu'n ysgrifennu drwy gydol ei hoes - yn aml deunydd ar gyfer colofnau cylchgronau ond doedd hi ddim yn or-hyderus yn ei gallu ei hun," medd Alun Ffred.

"Roedd ganddi farn bendant ac annibynnol hefyd fel gwraig gweinidog ac fe gofnododd rhai o'i syniadau mewn dyddiaduron rhwng 1949 a dechrau'r pumdegau.

"Go brin y byddai'n disgwyl i'r dyddiaduron hynny weld golau dydd ond maen nhw'n syniadau gonest a digon dadlennol."

Arthur Morus, Dafydd Iwan, Sis y fam, ac Alun Ffred - y tri mab ieuengafFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Arthur Morus, Dafydd Iwan, Sis y fam, ac Alun Ffred - y tri mab ieuengaf

Golwg ar le merch yn y gymdeithas a geir yn y dyddiaduron sy'n cyfeirio at ei chyfnod ym Mrynaman a Llanuwchllyn.

A hithau yn fam i bedwar o blant roedd ei diwrnodau yn llawn fel gwraig tŷ ac fel gwraig gweinidog roedd hi'n weithgar iawn yn ei chapel ac yn yr ardaloedd y bu'n byw ynddynt.

Ond prin oedd y gwerthfawrogiad cyhoeddus. Fel hyn yr ysgrifennodd yn nyddiadur 17 Tachwedd 1955: "Cwrdd ymadawol. Rhyfedd o fyd. Llawer o ganmol ar y gweinidog a thaflu ambell air nawddogol ataf innau fel (necessary appendage) - ond dim gair bach gan neb i ddangos gwerthfawrogiad o ddim a wnes i helpu gyda'r plant yn y Gobeithlu a'r mân bethau eraill...

"Teimlo'n unig, unig a chael ei thywallt hi yn y gwely."

'Dim gwerthfawrogiad gan neb'

Roedd Sis hefyd yn heddychwraig ac yr oedd yn gas ganddi rwysg, meddai Alun Ffred Jones wrth siarad ar Bwrw Golwg ddydd Sul.

"Yn y dyddie hynny os oeddech chi yn cael gweinidog oedd wedi priodi ac roedd Mam newydd priodi'n nhad, mi oeddech chi'n cael two for the price of one - dyna o'dd y syniad.

"Roedd Mam wrth ei bodd yn cyfrannu ond prin oedd y gwerthfawrogiad iddi hi fel gwraig y gweinidog.

"Mae'n reit feirniadol yn ei dyddiadur am y niferoedd a fyddai'n dod i'r cwrdd sefydlu - roedd yn gas ganddi unrhyw jamborîs a phregethwyr yn mynd i hwyl.

"Roedd hi'n athrawes, wrth gwrs, wrth ei chrefft ac roedd hi'n gwybod bod rhaid i chi drosglwyddo neges mewn ffordd ddealladwy a syml.

"Roedd hi hefyd yn heddychwraig a doedd hi ddim yn or-hoff o wleidyddion.

"Roedd hi'n casáu militariaeth a'r bom niwclear a doedd hi jyst ddim yn deall lle oedd moesoldeb pobl oedd yn honni eu bod yn Gristnogion a wedyn yn pregethu militariaeth."

Sis a chôr LlanuwchllynFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Sis a chôr Llanuwchllyn

Ychwanegodd Alun Ffred Jones nad oes "awgrym o amharch at ein tad o gwbl" wrth gyhoeddi'r gyfrol ond ei bod hi'n bwysig cydnabod "gwaith a bywyd ein mam".

Roedd y tad, y Pachedig Gerallt Jones, yn aelod o deulu fferm y Cilie - fe gyhoeddodd ef farddoniaeth ac ysgrifau ac mae pennod ar ei gyfraniad yn y gyfrol Morwyr y Cilie.

"Roedd hi'n bwysig i'r wyrion ac eraill wybod am fywyd a gallu Mam hefyd, ychwanegodd Alun Ffred.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig