Dyn wedi talu miloedd am gwrs hyfforddiant ond heb gael cymhwyster

Dywedodd Aled Thomas fod y profiad wedi "gadael blas sur"
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Benarth yn galw am well system o reoleiddio cyrsiau hyfforddiant galwedigaethol preifat ar-lein.
Yn ôl Aled Thomas, 32, fe gollodd miloedd o bunnau ar ôl talu am gwrs, gan adael heb unrhyw gymwysterau.
Mae Ffederasiwn Meistri Adeiladu Cymru wedi dweud bod ei achos yn amlygu pryder bod y llwybr hyfforddi i mewn i'r diwydiant adeiladu "wedi torri".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn annog dysgwyr i ystyried cyrsiau achrededig.
'Gadael blas sur'
Roedd Aled Thomas wedi ennill cymwysterau i fod yn blymwr tra yn y coleg, ond wedi ei chael hi'n anodd iawn cael prentisiaeth wedyn.
Y gobaith oedd y byddai cymwysterau ychwanegol gan y coleg ar-lein yn helpu.
"Rwy'n siomedig iawn achos gallai hyn fod wedi bod yn gyfle gwych am yrfa newydd mewn ynni adnewyddadwy, ond mae'r ffaith mod i heb gael y cyfle i orffen cwrs wedi gadael blas sur," meddai.
Roedd y cwrs wedi costio £7,145 iddo, ac roedd Mr Thomas wedi sicrhau benthyciad trwy gwmni cyllid er mwyn talu'r gost.
Ond mae'n honni fod aseiniadau yn cael eu gosod oedd yn amhosib eu hateb, a bod hynny'n ei rwystro rhag gorffen y cwrs.
Pryder bod cynnwys cyrsiau gwyddoniaeth yn 'hen ac amherthnasol'
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2025
'Lleddfu pwysau' ar gylchoedd meithrin yn flaenoriaeth - pennaeth newydd
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2025
Erasmus: Croesawu ailymuno â chynllun myfyrwyr 'hynod gadarnhaol'
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2025
Mae'n dweud bod ei ddyled bellach wedi ei throsglwyddo at gwmni casglu dyledion, ac mae'n dal i dalu £20 y mis at glirio cost hynny.
Mae'r cwmni hyfforddiant o Loegr, oedd yn cynnig y cyrsiau, wedi dod i ben.
Er bod ganddo gymwysterau plymwr ar ôl cwblhau cwrs coleg, roedd sicrhau prentisiaeth yn amhosib iddo - "maen nhw'n brin iawn", meddai .
"Roedd y cwrs wedi ei werthu yn dda i fi, ac yn sôn am drefniadau hyblyg a hefyd y bydde modd i fi weithio tra yn astudio os oeddwn i yn dymuno gwneud. Ond cyn hir nes i sylweddoli bod dim modd gwneud cynnydd gwirioneddol ar y cwrs."
'Wedi bod yn dorcalonnus'
Yn ddiweddar fe wnaeth Mr Thomas gysylltu â'r ombwdsman ariannol sydd wedi cadarnhau ei fod nawr yn ymchwilio i'r achos.
Dywedodd Mr Thomas: "Mae hyn i gyd wedi bod yn dorcalonnus. Rwy' am anghofio am y mater yma nawr a dod a hwn i ben a bod nhw naill yn cael gwared o'r ddyled sy' ar ôl, neu yn dileu unrhyw broblem gyda fy credit rating o hyn 'mlan."
Wrth edrych i'r dyfodol mae'n rhybuddio pobl i wneud "ymchwil manwl iawn cyn ymuno â chyrsiau galwedigaethol ar lein, yn enwedig os nad ydyn nhw wedi eu selio yng Nghymru, er mwyn sicrhau eu bod yn achrededig ar gyfer y diwydiant ma nhw am fynd mewn iddo".

"Mae'r llwybr hyfforddi i mewn i'r diwydiant adeiladu yn anffodus wedi torri," meddai Ifan Glyn
Mae hanes Mr Thomas yn amlygu pryder ynglŷn â'r system hyfforddiant yng Nghymru yn y diwydiant adeiladu yn ôl Ifan Glyn, Cyfarwyddwr Ffederasiwn Meistri Adeiladu Cymru (FMB).
"Mae'r llwybr hyfforddi i mewn i'r diwydiant adeiladu yn anffodus wedi torri," meddai.
"Does dim digon o gyfleoedd i brentisiaid a does ryfedd bod lot mwy o bobl yn troi at lwybrau amgen a rhai ohonyn nhw yn llwybrau lle all pethe fynd yn wael, fel yn yr achos yma."

"Mae'n rhaid gwneud hi gymaint haws i bobl gael y sgiliau allweddol yma er mwyn cael y cyfleoedd gwaith," meddai Heledd Fychan AS
Mae Heledd Fychan, AS Plaid Cymru dros ganol de Cymru, yn dweud ei bod hi yn poeni bod diffyg strategaeth sgiliau yng Nghymru.
"Rwy'n teimlo rhwystredigaeth lwyr," meddai.
"Ma pobl ishe gweithio a chael cymwysterau ond yn anffodus dydy pawb ddim yn gwybod sut ma' mynd o'i chwmpas hi ac yn anffodus, yn y sefyllfa yma, wedi colli allan ar £7,000 a ddim wedi cael cymhwyster chwaith.
"Mae'n rhaid gwneud hi gymaint haws i bobl gael y sgiliau allweddol yma er mwyn cael y cyfleoedd gwaith."
Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw "yn parhau i fod ar y trywydd iawn i gyflawni ein hymrwymiad i ddarparu 100,000 o gyfleoedd prentisiaeth newydd dros dymor y Senedd hon - pob un wedi'i achredu ac wedi'i ariannu'n gyhoeddus.
"Rydym yn annog dysgwyr i ystyried cyrsiau achrededig fel prentisiaethau fel llwybrau dibynadwy i ennill cymwysterau cydnabyddedig.
"Rydym yn cryfhau'r trefniadau goruchwylio ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-16 i sicrhau safonau uchel ac atebolrwydd ar draws y sector."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.