'Lleddfu pwysau' ar gylchoedd meithrin yn flaenoriaeth - pennaeth newydd

Catrin Edwards, Prif Weithredwr Mudiad MeithrinFfynhonnell y llun, Mudiad Meithrin
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Catrin Edwards wedi cychwyn yn ei rôl fel prif weithredwr Mudiad Meithrin ar ôl cael ei phenodi ym mis Hydref

  • Cyhoeddwyd

Mae prif weithredwr newydd Mudiad Meithrin yn dweud fod "lleddfu'r pwysau" ar wirfoddolwyr yn flaenoriaeth, yn dilyn galwadau am fwy o gymorth.

Gwirfoddolwyr sy'n gwasanaethu ar bwyllgorau cylchoedd meithrin, a nhw sy'n gyfrifol am faterion ariannol, diogelu plant a chyflogi staff.

Ond mae rhai'n poeni y gallai cylchoedd orfod cau os na allan nhw ddenu pobl i wneud y gwaith.

Yn gynharach eleni dywedodd gwirfoddolwr oedd wedi ceisio cynnal cylch meithrin na fyddai'n "hybu unrhyw un i fynd ati i drio agor cylch meithrin achos pa mor torcalonnus o galed mae e wedi bod".

Ychwanegodd nad yw'r system yn gynaliadwy, a "dyw e ddim yn gweithio".

Yn siarad dydd Iau, dywedodd Dr Catrin Edwards, a gychwynnodd ei swydd fel prif weithredwr ym mis Rhagfyr, fod y sefydliad "yn cydnabod y pwysau" sydd ar y gwirfoddolwyr ac yn "chwilio am ddatrysiadau".

Dywedodd Dr Edwards, sy'n fam i dri o blant, fod y "gofynion wedi mynd yn fwy" wrth i'r sector gofal plant esblygu dros y degawdau diwethaf.

"Mae 'na ddarn o waith gyda ni yn mynd yn ei flaen - 'da ni'n cydnabod y pwysau yna a 'da ni'n chwilio am y datrysiadau."

Ychwanegodd: "'Da ni'n ceisio dod i ffeindio modelau sy'n lleddfu'r pwysau yna ar ein pwyllgorau rheoli gwirfoddol ni," meddai.

"Mae'n mynd i fod yn flaenoriaeth i ni i fynd i'r afael â'r her yna, dwi wedi clywed y lleisiau yna, dwi wedi gwrando arnyn nhw, a dwi am fynd i'r afael â fe."

'Angen buddsoddiad'

Gydag etholiad y Senedd ar y ffordd, dywedodd Dr Edwards fod y sector gofal plant angen mwy o fuddsoddiad.

"Dy'n ni ddim just isio clywed am bwysigrwydd gofal plant, 'dyn ni isio clywed am y buddsoddiad angenrheidiol er mwyn i ni ehangu'r ddarpariaeth 'dyn ni'n gwybod sydd angen."

Ychwanegodd: "Ni isio gweld pob plentyn yn cael y cyfle i chwarae, dysgu a thyfu trwy'r Gymraeg - ac yn graidd i hynny, dwi'n meddwl bo' fi isio gweld tegwch, cyfiawnder cymdeithasol a chreu ac uno cenedl amlddiwylliannol trwy'r Gymraeg."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig