Tony Jones o'r ddeuawd 'Tony ac Aloma' wedi marw yn 86 oed

Tony ac Aloma
Disgrifiad o’r llun,

Ymddangosodd Tony ac Aloma ar y radio am y tro cyntaf ym mis Medi 1965, ar y rhaglen 'Llafar Gwlad'

  • Cyhoeddwyd

Mae Tony Jones, y canwr oedd yn un hanner o'r ddeuawd Gymraeg boblogaidd, Tony ac Aloma, wedi marw yn 86 oed.

Wedi'i fagu yn Rhos-meirch ar Ynys Môn, bu'n swyno cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru a thu hwnt am dros hanner canrif.

Roedd y ddeuawd yn gyfrifol am rai o glasuron y Gymraeg, fel 'Dim Ond Ti A Mi' a 'Tri Mochyn Bach', ond bu hefyd yn perfformio fel artist unigol.

Roedd gan Tony ddawn am gyfansoddi hefyd ac mae rhai o'r caneuon y creodd yn y 1960au a'r 1970au, fel 'Mae Gen i Gariad', yn dal yn boblogaidd heddiw.

Tony Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 76,000 copi o'r gân 'Mae Gen i Gariad' eu gwerthu - record gyntaf y ddau ac wedi'i chyfansoddi gan Tony

Dechreuodd Tony gyfansoddi caneuon pan oedd yn gweithio fel gwas fferm yn Lloegr ac yn y cyfnod hwnnw y cyfarfodd â'r gantores ifanc o Lannerch-y-medd, Aloma Jones.

Buodd Tony yn esbonio sut i hynny ddigwydd ar y rhaglen 'Fi a fy Mhartner' yn 1986.

Dywedodd ar y pryd mai ar hap a damwain y digwyddodd hynny, wrth iddo fynd i chwilio am ewythr Aloma - Llugwy - i'w gael i gymryd rhan fel artist mewn Noson Lawen yn Llannerch-y-medd.

Tony ac Aloma
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tony ac Aloma yn cael eu hedmygu am eu harmonïau clir ac alawon cofiadwy

O fewn dim, roedd Tony ac Aloma yn perfformio ar lwyfannau cyngherddau, Nosweithiau Llawen a chaneuon fel 'Rhywbeth Bach i'w Ddweud' ac 'Wedi Colli Rhywun sy'n Annwyl' yn ffefrynnau gan gynulleidfaoedd.

Cymaint oedd y galw nes i'r ddeuawd droi'n broffesiynol, ond fe wnaethant wahanu am rai blynyddoedd ar un cyfnod.

Ar ôl wyth mlynedd ar wahân - gyda Tony yn perfformio fel artist unigol ac Aloma yn canu gyda'i phartner Roy - fe ddychwelodd y ddeuawd at ei gilydd yng nghanol yr 1980au.

Ers 1987 roedd Tony wedi bod yn helpu Aloma a Roy, i redeg gwesty'r Gresham yn Blackpool.

Am flynyddoedd buon nhw'n cynnal nosweithiau cabaret yno, gydag artistiaid adnabyddus eraill o Gymru yn ymuno a llond bysiau o ddilynwyr yn mynd i aros yno.

Dafydd Iwan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dafydd Iwan bod Tony yn "ŵr bonheddig oedd â llais unigryw, arbennig - ond ei brif gryfder o oedd y caneuon"

Dywedodd Dafydd Iwan fod Tony ac Aloma yn "ffenomen arbennig iawn", gan ychwanegu "dwi'm yn meddwl welwn ni ddim byd tebyg iddyn nhw eto".

"Roedd 'na ryw dinc diffuant a dilys yn ei ganeuon o'i gyd a dyna oedd rhan fawr o'r apêl, a'r lleisiau wrth gwrs," meddai.

"Roedd y gynulleidfa yn credu ynddyn nhw, yn ei garu nhw ac yn wrth ei bodd hefo'r caneuon.

"Mae lle nhw yn oriel yr anfarwolion pop Cymraeg yn sicr... ac mae angen ni ddyled fawr iddyn nhw."

Dywedodd bod Tony yn "ŵr bonheddig oedd â llais unigryw, arbennig - ond ei brif gryfder o oedd y caneuon".

Dei Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Roedd poblogrwydd Tony ac Aloma yn "rhyfeddol", meddai Dei Tomos

Dywedodd y darlledwr Dei Tomos fod cyfraniad Tony ac Aloma yn "eithriadol" a bod poblogrwydd y ddeuawd yn "rhyfeddol".

"Wrth gwrs oedd pobl yn gwirioni arnyn nhw - ac mae pobl wedi gwirioni ers dros hanner can mlynedd a mwy," meddai.

"Mae colled fawr ar ei ôl o. Roedd y ddeuawd yn rhyfeddol ac yntau'n rhan allweddol ohoni."

Dywedodd fod Tony ac Aloma wedi "llwyddo yn eithriadol ac wedi dangos pryd hynny i lawer o bobl fod hyn yn bosib".

"Oedden nhw'n sêr yn ei hawl ei hunain, roedden nhw'n boblogaidd tu hwnt."

'Argraff ryfeddol'

Dywedodd Huw Jones, cynhyrchydd y gyfres deledu Tony ac Aloma fod y deuawd wedi gwneud "argraff ryfeddol" ac mai "caneuon gwreiddiol Tony oedd yr allwedd i'w llwyddiant".

"Roedd ganddo allu greddfol i roi stori syml, ond llawn gwirionedd, ar alaw gofiadwy," meddai.

"Roedd Tony yn fachgen annwyl, swil hyd yn oed, ond yn sylwi'n graff ar y byd o'i gwmpas.

"Er iddo dreulio rhan helaeth o'i fywyd yn Lloegr, ei fagwraeth ar ffermydd Sir Fôn, a chymdeithas naturiol Gymreig yr ynys, oedd ysbrydoliaeth y caneuon aeth i ben y siartiau dro ar ôl tro yng nghyfnod cynnar allweddol y byd pop Cymraeg."

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol