Cymru yn yr un grŵp â Lloegr yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2027

Cymru ar ol trechu JapanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Cymru sicrhau eu lle yn y 12 uchaf yn netholion y byd gyda'r fuddugoliaeth funud olaf dros Japan fis diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Bydd Cymru'n wynebu Lloegr yn eu grŵp yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2027 yn Awstralia.

Daeth yr enwau o'r het mewn seremoni yn Sydney ddydd Mercher.

Gwrthwynebwyr eraill Cymru yng Ngrŵp F fydd Tonga a Zimbabwe.

Mae'r twrnament yn ehangu o 20 i 24 tîm yn 2027, gyda chwe grŵp o bedwar tîm.

Bydd y gêm agoriadol yn cael ei chynnal yn Perth ar 1 Hydref 2027, a'r rownd derfynol yn Sydney ar 13 Tachwedd.

Cwpan Webb EllisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cwpan Webb Ellis fydd y wobr ar gyfer pencampwyr Cwpan Rygbi'r Byd

Roedd Cymru yn yr ail bot wrth i'r enwau ddod o'r het ddydd Mercher.

Dim ond o drwch blewyn y sicrhaodd tîm Steve Tandy eu lle yn yr ail haen - 12 uchaf y byd - wedi iddyn nhw drechu Japan yn y funud olaf fis diwethaf.

Bydd y ddau uchaf ym mhob grŵp yn sicrhau eu lle yn rownd yr 16 olaf, ynghyd â'r pedwar tîm gorau sydd wedi gorffen yn drydydd yn eu grwpiau.

Bydd trefn y gemau yn cael ei gyhoeddi ar 3 Chwefror 2026, gyda gemau'n cael eu cynnal mewn saith dinas - Adelaide, Brisbane, Melbourne, Newcastle, Perth, Sydney a Townsville.

Cymru v Ariannin 2023Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Cymru eu trechu gan Yr Ariannin yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd 2023

Pe bai Cymru'n ennill Grŵp F, fe fydden nhw'n wynebu'r tîm sydd wedi gorffen yn ail yng Ngrŵp B - grŵp sy'n cynnwys De Affrica, Yr Eidal a Georgia - yn yr 16 olaf.

Os yw Cymru'n gorffen yn ail yn eu grŵp, fe fydden nhw'n herio'r tîm sydd wedi gorffen yn ail yng Ngrŵp C - grŵp sy'n cynnwys Yr Ariannin a Ffiji.

Pe bai Cymru'n gorffen yn drydydd yn y grŵp ac yn sicrhau digon o bwyntiau i fynd trwodd i'r rownd nesaf, fe fydden nhw'n wynebu enillwyr un o'r grwpiau eraill yn yr 16 olaf.

Y grwpiau'n llawn

Grŵp A: Seland Newydd, Awstralia, Chile, Hong Kong China

Grŵp B: De Affrica, Yr Eidal, Georgia, Romania

Grŵp C: Yr Ariannin, Ffiji, Sbaen, Canada

Grŵp D: Iwerddon, Yr Alban, Uruguay, Portiwgal

Grŵp E: Ffrainc, Japan, Yr Unol Daleithiau, Samoa

Grŵp F: Lloegr, Cymru, Tonga, Zimbabwe

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.