Mêl y Maes: Apêl i Eisteddfodwyr
- Cyhoeddwyd

Bydd DNA mêl lleol yn cael ei astudio gan wyddonwyr
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi gofyn am help gan eisteddfodwyr er mwyn dod o hyd i fêl Cymreig sydd â grymoedd arbennig.
Mae'r Brifysgol yn cynnal astudiaeth o briodweddau iachau mêl, ac maen nhw'n awyddus i gynhyrchwyr mêl lleol wneud cyfraniad at yr astudiaeth, gan ddod â samplau o'u cynnyrch i faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli.
Dr Arwyn Jones o Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd sy'n arwain y gwaith: "Ein gobaith yw darganfod mêl o Gymru sydd â phriodweddau gwrthfiotig, a byddwn yn gweithio ar y prosiect ym Mhafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod ar y maes.
"Os bydd mêl yn ymddangos yn wrthfiotig, byddwn yn mynd ati i ddarganfod paill o ba flodyn sy'n gyfrifol am yr ymateb drwy ddefnyddio technegau DNA.
"Mae'n broses hynod gyffrous, a byddai'n wych cael hyd i elfennau gwrthfiotig ar faes yr Eisteddfod."
Creu mêl arbennig
"Os cawn hyd i rywbeth, yna mae'n bosibl y gallwn greu mêl arbennig trwy ganiatáu'r gwenyn i ymweld â phlanhigion sydd â nodweddion gwrth facteriol da."
"Rydym yn galw am gymorth y rheiny sy'n cadw gwenyn ym mhob cwr o Gymru i'n helpu gyda'r prosiect hwn.
"Gallwch anfon sampl o fêl atom neu mae croeso i chi ddod â'r sampl gyda chi i faes yr Eisteddfod, lle y gallwn ei brofi.
"Rydym yn gobeithio y byddwn yn ennyn cefnogaeth ceidwaid gwenyn o bob ardal, ac y cawn gyfle i astudio nifer fawr o samplau o fêl yn ystod yr wythnos."
Mae diddordeb cynyddol mewn dod o hyd i dechnegau iachau naturiol ac mae cynhyrchwyr mêl yn Seland Newydd wedi manteisio yn fawr ar werthu mêl Manuka, sydd yn cael ei farchnata am ei allu gwrth facteriol.