Pobol y Cwm: BBC yn anghytuno â chwyn Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd

Dywedodd BBC Cymru fod y pwnc wedi ei drafod yn gytbwys a nad oedd yn torri canllawniau golygyddol y BBC
Mae BBC Cymru wedi datgan eu bod yn gwrthod cwyn gafodd ei gwneud ynglŷn â rhifyn diweddar o'r opera sebon Pobol y Cwm.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ofyn i S4C beidio ag ail-ddangos pennod o Pobol y Cwm, a gynhyrchir gan BBC Cymru, a gafodd ei darlledu ar nos Fercher Tachwedd 28 pan oedd un cymeriad yn feirniadol o'r polisi ar daclo diciâu mewn gwartheg.
Yn dilyn adolygiad manwl fe ddywedodd y gorfforaeth nos Wener eu bod nhw'n fodlon bod sawl safbwynt gwahanol ar y rhaglen a bod y pwnc wedi ei drafod yn gytbwys ac nad oedd yn torri canllawiau golygyddol y BBC.
Yn gynharach yn yr wythnos dywedodd Prif Weinidog Cymru mai fe awdurdododd gais y llywodraeth i S4C beidio ag ailddarlledu'r bennod ar nos Iau Tachwedd 29.
'Materion sensitif a dadleuol'
Yn y bennod dan sylw dywedodd un o'r cymeriadau, Cadno, nad oedd gan Lywodraeth Cymru yr asgwrn cefn i ddifa moch daear.
Roedd y llywodraeth yn honni nad oedd y rhaglen yn dilyn canllawiau golygyddol.
Ond dywedodd S4C fod y rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o safbwyntiau a chafodd y rhaglen ei hailddarlledu.
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Rydym yn cadarnhau ein bod wedi ymateb i'r gwyn yn dilyn adolygiad manwl o'r bennod o dan sylw yn ogystal â phenodau eraill sydd wedi bod yn ymdrin â'r un stori dros gyfnod o wythnosau a misoedd.
"Fel drama sebon boblogaidd mae Pobol Y Cwm wastad yn anelu at ymdrin â materion sensitif a dadleuol mewn modd sy'n ddealladwy ac yn gytbwys.
"Yn dilyn ein hadolygiad rydym yn fodlon bod amryw o safbwyntiau gwahanol am ddileu diciâu mewn gwartheg wedi cael eu trafod yn y rhaglen hon a thrwy gydol y gyfres.
"Rydym wedi dod i'r casgliad bod ein hymdriniaeth o'r mater pwysig hwn wedi bod yn gytbwys ac yn ddiduedd a'i fod yn cydymffurfio â chanllawiau golygyddol y BBC.
"Felly nid ydym yn cytuno gyda'r gwyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2012

- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012
