£4m i ddatblygu twristiaeth

  • Cyhoeddwyd
Beiciwyr mynyddFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae llwybrau beicio mynydd Coed-y-Brenin eisoes yn denu miloedd o ymwelwyr

Bydd cynllun £4 miliwn i ddatblygu Meirionnydd yn ganolfan ragoriaeth gweithgareddau awyr agored yn denu mwy o ymwelwyr, medd Cyngor Gwynedd.

Nod Eryri, Un Antur Fawr yw datblygu adnoddau mewn pedair canolfan, gan gynnwys llwybrau beicio mynydd ac adnoddau ymwelwyr yng Nghoed-y-Brenin, Dolgellau ac Antur Stiniog ym Mlaenau Ffestiniog, llety ac adnoddau yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn, a gwella adnoddau pysgota yn Llyn Trawsfynydd.

Bydd y cynllun, gafodd arian o'r Gymuned Ewropeaidd, yn ceisio annog busnesau lleol i fanteisio ar y farchnad antur awyr agored drwy weithio gyda'r canolfannau.

Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Arweinydd Portffolio'r Economi a Chymunedau Cyngor Gwynedd: "Bydd yr adnoddau newydd yn y pedwar safle yn galluogi busnesau lleol eraill i ddarparu cynnyrch a gwasanaethau ychwanegol, gan greu cyfleoedd gwaith ac economaidd."

Fe fydd busnesau'n mynd i gyfres o ddigwyddiadau y mis hwn er mwyn canfod sut i ychwanegu gwerth i'w busnesau.

Catalydd

Mae gan y cynllun sawl nod:-

  • Defnyddio asedau naturiol De Eryri i sefydlu canolfan weithgareddau integredig fel catalydd i ddatblygu twristiaeth ymhellach;

  • Annog y gymuned i fod yn rhan o ddatblygu gweithgareddau awyr agored yn Ne Eryri er mwyn sicrhau budd economaidd i'r boblogaeth leol;

  • Darparu profiadau a chyfleoedd i ymwelwyr a thrigolion gydol y flwyddyn;

  • Cefnogi datblygu'r sector awyr agored er mwyn cadw Eryri yn gyrchfan o safon byd eang ar gyfer gweithgareddau awyr agored;

  • Gosod cynaliadwyedd yng nghanol y gweithgareddau gyda phwyslais ar gymunedau'r ardal.

Y partneriaid eraill yw Cyngor Gwynedd, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Cymdeithas Bysgota Prysor, Antur Stiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a'r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear.

Straeon perthnasol