Cwpan Carling: Crystal Palace 1-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Anthony Gardner sgoriodd gôl Crystal Palace nos Fawrth
Mae gobeithion Caerdydd o gyrraedd rownd derfynol Cwpan Carling yn dal yn fyw wedi iddynt golli o un gôl i ddim yn erbyn Crystal Palace ym Mharc Selhurst nos Fawrth.
Bydd yr ail gymal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ymhen pythefnos yn allweddol wrth i'r ddau dîm frwydro am le yn y rownd derfynol.
Yr ymwelwyr a ddechreuodd orau ond methodd Joe Ralls a Ben Turner gyfleoedd da i roi'r Adar Gleision ar y blaen.
Aeth Crystal Palace ar y blaen wedi 43 munud pan sgoriodd Gardner o groesiad Darren Ambrose o'r asgell chwith.
Troseddu
Rhwydodd Kenny Miller i Gaerdydd yn gynnar yn yr ail hanner ond fe gafodd y gôl ei gwahardd am fod un o chwaraewyr Caerdydd wedi troseddu gôl geidwad y tîm cartref, Julian Peroni.
Er i dîm Malky Mackay fethu creu llawer o gyfleoedd yn yr ail hanner fe fydd yr Adar Gleision yn fffyddiog y gallan nhw ennill yr ail gymal o ddwy gôl ymhen pythefnos.
Y wobr i'r buddugwyr fydd lle yn y rownd derfynol yn Wembley yn erbyn naill ai Lerpwl neu Manchester City ar Chwefror 26.
Crystal Palace 1 Caerdydd 0
Gardner 43
Crystal Palace: Speroni, Parr, McCarthy, Gardner, Ramage, Ambrose, Dikgacoi, Zaha, Murray, Martin
Eilyddion: Price, Wright, Garvan, O'Keefe, Scannell, Easter, Andrew
Caerdydd: Heaton, McNaughton, Taylor, Hudson, Turner, Whittingham, Cowie, Gunnarsson, Ralls, Miller, Mason
Eilyddion: Marshall, Gerrard, Kiss, Conway, Blake, McPhail, Earnshaw
Y Bumed Rownd: Tachwedd 29
Caerdydd 2 Blackburn Rovers 0
Y Bedwaredd Rownd: Hydref 25
Caerdydd 1 Burnley 0
Y Drydedd Rownd: Medi 21
Caerdydd 2 Caerlŷr 2 (Caerdydd yn ennill 7-6 yn dilyn ciciau o'r smotyn)
Yr Ail Rownd: Awst 23
Caerdydd 5 Huddersfield 3
Y Rownd Gyntaf: Awst 10
Rhydychen 1 Caerdydd 3
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2012