Stiwardiaid yn tarfu ar yr hwyl
Roedd yna adeg, unwaith, pan yr oedd cefnogwr pêl-droed yn cael ei ystyried fel tipyn o ddihiryn, yn chwilio am unrhyw esgus i gwffio.
Erbyn heddiw, mae'r stiwardiaid sydd yn cael eu defnyddio gan glybiau pêl-droed, yn ymddangos ac yn ymddwyn fel petaent yn brysur drio'u gorau i etifeddu'r ddelwedd yma.
Ganol wythnos, sgoriodd Reading yn hwyr yng Nghwpan FA Lloegr, i ennill oddi cartref yn West Bromwich Albion, ac ar ddiwedd y gêm, peth naturiol oedd i aelodau'r tîm fynd i gyfeiriad eu cefnogwyr i ddathlu.

Ond nid yng ngardd gefn stiwardiaid West Brom mae ymddwyn felly!
O flaen camerâu teledu, roedd yn amlwg fod y stiwardiaid yma am wneud unrhyw beth, a hynny yn gorfforol petai rhaid, i gadw'r chwaraewyr oddi wrth eu cefnogwyr.
Does gen i fawr o amser at y bobl yma sydd yn gwisgo siacedi melyn neu oren, ac yn ymddwyn fel hwliganiaid o dan drwydded wrth i'r grym o geisio cadw trefn ar eraill fynd i'w pennau.
Cefais brofiad mewn gêm Uwchgynghrair Lloegr, (Bolton yn erbyn Everton), pan safodd gŵr i fyny o'i sedd, gan gymeradwyo gôl i Everton (ac na, nid fi oedd y gŵr hwnnw).
Cyn pen chwinciad, roedd y stiwardiaid yno fel gwenyn melyn o gwmpas pot jam, ac yn hebrwng y gŵr druan i ffwrdd am iddo greu aflonyddwch ymysg y dyrfa!
Mae wedi dod i rywbeth os na ellir rhywun gymeradwyo chwarae da gan unrhyw dîm, heb gael y stiwardiaid cythreulig a diegwyddor yn eich erlid.
Tybed a welwn chwaraewr a feiddiai sgorio gôl oddi cartref yn cael ei hebrwng o'r maes gan y stiwardiaid am ypsetio y cefnogwyr cartref.
Mae rhyddid yr unigolyn yn rhan annatod o ddemocratiaeth, ond mae'n ymddangos fel petai'r elfen yma o'n hawliau wedi peidio â bodoli mewn caeau pêl-droed mwyach, diolch i awdurdod unbenaethol a hunan benodol y stiwardiaid mileinig lletchwith.
Gwyn eu byd y stiwardiaid mewn siacedi melyn , canys eiddynt hwy yw'r hawl i erlid ar unrhyw gefnogwr a feiddiai gwerthfawrogi pêl-droed deniadol gan yr ymwelwyr!





Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 