Penwythnos Cwpan Lloegr a chyfle arall i ddychwelyd i ganol byd hud a lledrith pêl-droed.
Ydych chi'n cofio Ronnie Radford yn sgorio i Henffordd (aelodau o'r Southern League bryd hynny) gan chwalu gobethion Newcastle United Malcolm McDonald o ddwy gôl i un mewn gêm ail chwarae yn Henfordd yn 1972 - neu goliau Mickey Thomas a Steve Watkin yn suddo Arsenal yn 1992?
I mi, y gamp orau oll, a'r sioc fwyaf oedd gweld Sutton United gan gynnwys y Cymro Robyn Jones, yn curo deiliad y Gwpan, Coventry City o ddwy gôl i un yn 1989.
Mae'r gemau yma wedi dod yn rhan o lên gwerin pêl-droed erbyn heddiw, ond faint ohohom sydd yn ymwybodol o'r ffaith mai Abertawe oedd y tîm cyntaf y tu allan i brif gynghreiriau Lloegr, i guro tîm o'r hen adran gyntaf yn y Gwpan?
Ionawr 9, 1915 oedd y dyddiad, ac fe roedd y Rhyfel Mawr wedi dechrau y Medi blaenorol gyda'r wlad yn credu y byddai popeth drosodd erbyn y Nadolig, a bywyd, megis gemau pêl-droed yn cario ymlaen yn ôl yr arfer.
Erbyn mis Ionawr fodd bynnag, doedd dim golwg ar derfyn y Rhyfel, a daeth llawer o fobol i sylweddoli maint yr hunllef, wrth i gynifer o'u hanwyliaid gael eu lladd ym mrwydrau y ffosydd yng Ngwlad Belg.
Yn sgil hyn, roedd parhau gyda gemau pêl-droed yn dod yn rhywbeth afiach yn llygaid y cyhoedd, gyda'r chwaraewyr yn cael eu hystyried fel bradwyr.
Serch hynny, death 16,000 i gae y Vetch gan weld hanes yn cael ei greu yng Ngwpan Lloegr.
Blackburn Rovers oedd yr ymwelwyr, deiliad y Gwpan, tra roedd llinell flaen y Swans yn cael ei arwain gan lanc un ar bymtheg oed, Benny Benyon, a ymunodd gyda Abertawe dim ond am fod gemau rygbi wedi cael eu hatal oherwydd y Rhyfel.
Llwyddodd Benyon i wneud mwy nac arwain - fe sgoriodd unig gôl y gêm, gydag Abertawe yn dod yn enwog fel y cyntaf i guro tîm o'r adran gyntaf, a hwythau hefyd newydd ennill Pencampwriaeth yr Adran Gyntaf y tymor blaenorol.
Ohwerwydd y gwrthwynebiad a oedd yn brysur godi yn erbyn pêl-droed yn sgil erchyllterau y Rhyfel, ni chafodd Abertawe y cyhoeddusrwydd teilwng am eu buddugoliaeth.
Ar ddiwedd tymor 1914-15, atalwyd pob cystadleuaeth pêl-droed, aeth Benyon i'r rhyfel, ac wedi iddo ddychwelyd yn 1918, fe ail ymunodd gyda chwb rygbi Abertawe a chael ei dewis i chwarae dros Gymru yn erbyn Lloegr a'r Alban yn 1920.
Does ryfedd fod yna gymaint o ramant yn y Gwpan - mae'n hen ystrydeb efallai ond tydi pethau fel yna ddim yn digwydd heddiw!