Wythnos gythryblus arall
Wythnos arall yn Uwchgynghrair Cymru, a helynt arall!
Mae'n ymddangos fod y cynllun o gael Uwchgynghrair a fyddai'n cynnwys deuddeg tîm, yn mynd i arwain at 44 o gemau yn yr Uwchgynghrair (pawb yn chwarae ei gilydd bedair gwaith) - golyga hyn y bydd yna ddeg gêm yn fwy yn cael eu chwarae nac o dan y drefn bresennol.
Gyda chystadlaethau Cwpan ac yn y blaen yn ychwanegol, ymddengys y bydd llawer o'r timau yn chwarae tua 60 o gemau o dan y drefn yma.
A dyna sail yr helynt newydd.
Tydi timau rhan amser, sydd â chyllid cyfyngedig ddim am fod yn hapus os fydd yna estyniad i'r tymor, a fyddai'n golygu talu chwaraewyr yn wythnosol, am gyfnod hirach na'r presennol.
Enghraifft arall hwyrach i wneud i rywun feddwl mai timau llawn amser mae'r Uwchgynghrair yn chwilio amdanynt - ond a fydd hyn yn bosibl o fewn gwlad fechan fel Cymru a'i sefyllfa economaidd?
Ai saethu ei hun yn ei droed mae'r Uwchgynghrair newydd, neu osod safonau a wel dim ond rhyw ddau neu dri chlwb yn llwyddo - os felly, bydd yna ddim byd newydd yn debygol o ddatblygu!
Ai dyma'r dull orau i ddatblygu'r Uwchgynghrair?
Beth yw eich barn ? Gadewch i ni wybod.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 