Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Howay the lads!

Ian Gwyn Hughes|14:32, Dydd Iau, 26 Tachwedd 2009

Mae'n rhaid bod cefnogwyr Abertawe yn edrych ymlaen yn fawr at y gêm ar Barc St James y penwythnos yma.

Heb os, mae hon yn un o gemau mwyaf atyniadol y tymor.

Mi fydd torf o dros ddeugain mil yn bresennol i wylio'r tîm sydd yn bedwerydd yn erbyn y ceffylau blaen.

Mae Newcastle wedi cyrraedd y safle yna wedi buddugoliaeth yn Preston nos Lun tra roedd Abertawe wedi curo Derby ar y nos Wener gyda gôl wefreiddiol gan Federico Bessone.

Ac roedd y gôl honno yn cadarnhau statws haeddiannol Abertawe ar y funud fel y tîm gorau yng Nghymru.

Roedd bron i ddeunaw mil yn y Liberty a hynny yn dangos fod y cefnogwyr yno yn credu yn yr hyn mae Paulo Sousa yn ei wneud.

Fe gafodd Sousa ddechrau anodd, yn etifeddu carfan oedd yn dioddef gydag anafiadau, yn etifeddu sefyllfa anodd yn sgil ymadawiad Roberto Martinez a'i staff ynghyd â dau chwaraewr allweddol i Wigan Athletic.

Ond mae o bellach wedi creu tîm sydd yn anodd iawn i'w curo, ond yn parhau i chwarae pêl-droed atyniadol, amyneddgar a chreadigol.

Mae Chris Hughton wedi llwyddo hefyd yn dilyn cychwyn anodd yn Newcastle - yn colli eu statws yn yr Uwch Gynghrair, yr holl sôn am Mike Ashley am werthu'r clwb a'r cefnogwyr yn dyheu am enw mawr fel Alan Shearer yn rheolwr.

Ond mae llwyddiant Hughton, yn uno carfan, yn sicrhau canlyniadau positif yn dangos nas oes rhaid ar enw a phersonoliaeth amlwg.

Mae yna sawl peth sy'n cysylltu Abertawe a Newcastle.

Roedden nhw yn arfer dweud mai'r ardaloedd yma oedd yn gyfrifol am feithrin y rhan fwyaf o dalent ifanc o fewn eu milltir sgwâr.

Y cysylltiad amlycaf a'r enwocaf mae'n debyg fyddai Ivor Allchurch, un o'r chwaraewyr gorau erioed gafodd ei anfarwoli gan gefnogwyr y Vetch a Pharc St James.

Beth bynnag fydd yn digwydd y penwythnos yma does dim rheswm yn y byd na fydd y ddau dîm yma yn brwydro am le yn yr Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor.

A sôn am y brif adran a'r cysylltiad ag Abertawe, braf fyddai gwybod beth oedd ymateb cefnogwyr Abertawe i'r newyddion o White Hart Lane ddydd Sul.

Sousa yw'r arwr bellach ond mae llawer o gefnogwyr o hyd wedi digio â Roberto Martinez wedi iddo adael y clwb yn yr haf.

Mae'n amlwg fod Martinez yn rheolwr ifanc talentog ond mi fydd y gweir yna yn Tottenham o naw i un yn brawf pendant o'i ddawn fel rheolwr.

Yr eironi mwyaf fyddai pe bai Wigan ag Abertawe yn cyfnewid statws ar ddiwedd y tymor.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.