Sawl peth positif o'r gêm
Er nad oeddwn i yn teimlo fod fawr o bwrpas i'r gêm gyfeillgar ddydd Sadwrn mae'n rhaid imi gyfaddef imi fwynhau'r gêm yn erbyn Yr Alban ac yn enwedig perfformiad Aaron Ramsey.
Roedd yr hanner cyntaf yn un cyffrous, llawn digwyddiad ac roedd Cymru wedi'r 10 munud agoriadol tipyn gwell na thîm George Burley.
Roedd sawl peth positif o'r gêm. Yn gyntaf ac yn bennaf y canlyniad. Mi wnaiff hynny fod o les i hyder y chwaraewyr a chynnig gobaith i'r cefnogwyr. Mi roedd safon y chwarae yn uchel yn enwedig y gwaith creadigol wrth greu'r tair gôl. Mi chwaraeodd Aaron Ramsey ran allweddol yn y tair, yn cynorthwyo i greu dwy a sgorio'r drydedd ei hun.
Mi gollodd y gêm ei siâp yn yr ail hanner ac mae hynny bob tro yn digwydd pan mae yna gymaint o newidiadau gyda'r eilyddion ac ychydig iawn fyddai'r ddau reolwr wedi ei ddysgu yn y tri chwarter awr. Er pa fudd oedd yr ail hanner amser a ddengys gan ei bod hi'n ymddangos fod swydd Burley o dan bwysau aruthrol yn sgil canlyniad a pherfformiad mor siomedig.
Nid fod popeth yn bositif. Roedd maint y dorf yn hynod siomedig. Ychydig dros 13,000 a dros 5,000 o'r Alban.
Mae'r Gymdeithas Bêl-droed yn gobeithio penodi Prif Weithredwr yr wythnos yma. Wel, cadarnhau'r penodiad beth bynnag. Ac mae'n amlwg fod yna waith aruthrol yn ei wynebu o ran gwella delwedd y Gymdeithas a marchnata'r gêm.
Dyma oedd y gêm ryngwladol gyntaf yn y stadiwm newydd a does dim dwywaith fod yr awyrgylch yn well yno ac yn sicr roedd y chwaraewyr yn edrych yn gyfforddus. Dwi'n siŵr mai yma y bydd Cymru yn chwarae y rhan fwyaf o'u gemau rhagbrofol ym Mhencampwriaethau Ewrop.
Un peth sydd wedi denu ymateb wedi'r gêm yw rôl Dean Saunders. Yn ddirprwy reolwr ar Gymru ac yn rheolwr ar Wrecsam, a thra roedd Cymru yn ennill yn gyfforddus roedd ei glwb yn dioddef canlyniadau ofnadwy wrth golli gartref o 2-0 yn erbyn Hayes a Yeading.
Mi ddeudais i ar y radio cyn y gêm mae lle Dean Saunders oedd gyda'i glwb er bod ganddo gytundeb yn ei ryddhau ar gyfer gemau rhyngwladol.
Roedd y tîm wedi mynd ar rediad o chwe gêm heb golli ac roedd pethau yn dechrau gwella. Ond mae hynny i gyd wedi newid yn sgil un canlyniad a pherfformiad. Dwi'n siŵr y gallai fod wedi gadael carfan Cymru ar y dydd Iau a bod gyda'i glwb ar y dydd Gwener.
Efallai bod Dean yn teimlo yn wahanol ond pan mae pethau yn mynd o'i le yna'r rheolwr sydd yn derbyn y cyfrifoldeb. Ac mae'n rhaid iddo dderbyn y feirniadaeth.
Mae cefnogwyr Wrecsam yn ysu i weld y tîm yn dychwelyd i gynghrair Lloegr, dydi colli yn erbyn Hayes a Yeading ddim yn dderbyniol ac mae o'n waeth pan nad yw'r rheolwr yno. Fyddai cefnogwyr Caerdydd yn derbyn absenoldeb Dave Jones, fyddai cefnogwr Abertawe yn derbyn absenoldeb Paulo Sousa? Mae'r ateb yn syml.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 