Cymru v Yr Alban
Y tro cyntaf imi wylio gêm ryngwladol oedd nôl yn 1969 ar y Cae Ras yn Wrecsam. Yr achlysur oedd Pencampwriaeth Prydain a'r ddwy wlad yn chwarae oedd Cymru a'r Alban.
I ddangos fel mae pethau wedi newid ers hynny yn nhîm yr Alban y diwrnod hwnnw roedd Tommy Gemmill, Bobby Murdoch a Billy McNeill, tri oedd wedi chwarae dwy flynedd yn gynharach i Celtic yn erbyn Inter Milan yn rownd derfynol Cwpan Ewrop.
Yn y tîm hefyd roedd Billy Bremner, capten Leeds United oedd newydd ennill y bencampwriaeth yn Lloegr am y tro cyntaf.
Yn chwarae dros Gymru roedd Gary Sprake, hefyd o Ledes, y rheolwr presennol John Toshack a dau gawr arall yn y llinell flaen, Ron a Wyn Davies. Yr Alban enillodd o bump i dair.
Dros y blynyddoedd wrth gwrs mae rhai o'r chwaraewyr gorau yn y byd wedi cynrychioli'r ddwy wlad. Yn fwy diweddar i Gymru Neville Southall, Ian Rush, Mark Hughes, Kevin Ratcliffe a Ryan Giggs. Dros yr Alban chwaraewyr fel Kenny Dalglish, Alan Hansen a Graeme Souness.
Chwaraewyd sawl gêm gofiadwy a dadleuol rhwng y ddwy wlad dros y blynyddoedd. Yr un mwyaf cofiadwy oedd yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn Anfield yn 1977. Chwaraewyd y gêm yno oherwydd trafferthion ar Barc Ninian yn 1976 yn rownd wyth olaf Pencampwriaethau Ewrop rhwng Cymru ac Iwgoslafia.
'Dwi'n cofio teithio i Lerpwl a chael fy synnu fod cynifer o Albanwyr yn y ddinas. Ble roedd y Cymry? Roedd poced fach ohonom ni ar y Kop ac mi roedd hi yn brofiad anesmwyth y noson honno.
Roedd yna ochenaid o ryddhad pan drawodd John Toshack y bar yn lle sgorio.
Doedd hi ddim tan ar ôl y gêm inni sylweddoli mai Joe Jordan oedd wedi llawio'r bêl arweiniodd at gic o'r smotyn Don Masson. Kenny Dalglsih sgoriodd yr ail.
Y ddwy gêm arall sydd yn aros yn y cof oedd y ddwy yn 1985 pan sgoriodd Ian Rush yn Hampden a'r gêm chwaraewyd ar Barc Ninian yn yr un flwyddyn.
Dyma'r gêm orffennodd yn gyfartal â Chymru yn colli cyfle arall o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd. Ond yn gysgod dros y cyfan oedd marwolaeth Jock Stein eiliadau wedi'r gêm.
Roeddwn ni wedi cyfarfod Stein, un o gewri'r gêm, yn gynharach yn yr wythnos ar gae ymarfer Bristol Rovers. Dyna ble roedd yr Albanwyr yn paratoi a rheolwr Rovers bryd hynny oedd Bobby Gould, ddaeth yn rheolwr ar Gymru yn ddiweddarach wrth gwrs.
Beth am y gêm y penwythnos yma felly?
Dwy wlad wedi gweld dyddiau gwell, dwy wlad yn paratoi ar gyfer y dyfodol. Yn sicr mae'r Albanwyr wedi gwella ers y gêm ddiwethaf yn eu herbyn yn 2004 tra mae Cymru wedi mynd am yn ôl.
Dyma'r gêm gyntaf ym maes newydd Caerdydd a tybed fydd y tîm yn ymateb i hynny. Mae nhw yn falch o ffarwelio â Stadiwm y Mileniwm am y tro a gobeithio y gwelwn ni welliant yn y gefnogaeth.
A sut ymateb tybed gaiff Ashley Williams fel capten ar ei wlad?
Mae hi wedi bod yn wythnos gofiadwy iddo. Yn chwarae i Abertawe wrth iddyn nhw guro Caerdydd ac yna'n cael ei anrhydeddu fel chwaraewr y flwyddyn nos Fercher cyn cael ei ddewis i arwain ei wlad. A fydd cefnogwyr Caerdydd yn anghofio ei gysylltiad ag Abertawe? Gobeithio'n wir.
Beth ydi'ch barn chi am dîm presennol Cymru? Beth ydi'r ymateb i chwarae gemau yn y stadiwm newydd yng Nghaerdydd?
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 
SylwadauAnfon sylw
Rown i yno pan chwaraewyd y ddwy wlad ar Barc Ninian ar y noson y bu farw Jock Stein. Noson od ar y naw.
Er mod i'n byw yn y brifddinas, dyma't tro cyntaf i fi fod i Stadiwm Dinas Caerdydd (dw i'n gefnogwr Wrecsam), ac mi oeddwn nnau'n falch o weld cefn Stadiwm y Mileniwm hefyd.
Gêm gyfeillgar neu beidio, roedd y dorf yn siomedig gyda'n amlwg llai na 9,000 o gefnogwyr yn Gymry. Heb swnio'n blwyfol, mae'n amlwg nad oes gan o leaif hanner ffyddloniaid Caerydd ddim lot o ddiddordeb mewn mynychu gemau Cymru, felly waeth i Wrecsam ac Abertawe gael mwy o gemau fel hyn - dwi'n cfo bod mewn torf o 8,000 i wylio Lichtenstein yn Wrecsam tua 2-3 blynedd yn ôl. Ar ddiwrnog gêm, mae'n amlwg o'r acenion ar nifer sy'n siarad Cymraeg bod trwch sylweddol o'r dorf yn teithio o bell i fynychu gemau cartref a dylid gwobrwyo eu ffyddlondeb gyda gemau'n nes i adre.
O'r cefnogwyr Dinas Caerdydd prin a wnaeth ddod i'r gem, roedd yn drist eu clywed yn bwio Joe Allen fel y daeth ymlaen i'r maes.