Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Canmol Toshack

Glyn Griffiths|15:20, Dydd Gwener, 13 Tachwedd 2009

Gêm ryngwladol arall, chwaraewyr yn tynnu allan eto, a rhaid gofyn beth ydi pwrpas cael gemau cyfeillgar ym mis Tachwedd.

Bydd Cymru, fel yr arferiad diweddar, yn rhoi tîm ifanc ar y cae, gyda chyfle unwaith eto i'r chwaraewyr ennill profiad a dangos eu gallu ar lefel ryngwladol.

tosh.jpg

Amser hefyd i drafod cyfraniad John Toshack, gyda nifer yn credu ei bod yn amser iddo gamu i'r adwy a gadael i rywun arall reoli yn ei le.

Cyn rhuthro i'w feirniadu, rhaid gofyn beth mae Toshack wedi ei gyflawni ac a ydi o wedi sefydlu strwythur gwell ar gyfer datblygu chwaraewyr rhyngwladol, na'r drefn a etifeddodd?

Yr ateb i hyn, er nad ydym wedi llwyddo i gyrraedd Rowndiau Terfynol Cwpan y Byd, ydi fod y strwythur presennol wedi llwyddo i ddatblygu chwaraewyr yn un llawer gwell nac a welwyd yn y gorffennol.

Gall Brian Flynn a'i garfan dan21 oed dderbyn llawer o'r clod, ond Toshack oedd y tu ôl i'r ailwampio.

Cyn penodi Toshack i'r swydd, roedd nifer fawr yn credu fod swydd y rheolwr newydd am fod yn un anodd, gan fod cymaint o chwaraewyr profiadol wedi dod i ddiwedd eu gyrfa ryngwladol, a'r rhai ifanc yn rhy ddibrofiad i wneud argraff.

Roedd llawer o'r farn mai'r olynydd ( i Toshack) a fyddai yn y sefyllfa orau, wrth etifeddu carfan a fuasai, mewn amser, wedi aeddfedu a datblygu.

Mae'r chwaraewyr ifanc yn prysur aeddfedu, yn ennill profiad ac yn datblygu'n dda.

Onid yw'n deg felly, i ofyn oni ddylai Toshack arwain Cymru ymhellach, cyn gweld rhywun arall yn cael y cyfle i'n harwain at lwyddiant ar sail ffrwyth, llafur a strwythur datblygiadol ac effeithiol y rheolwr presennol?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.