Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Sacrebleu!

Glyn Griffiths|10:03, Dydd Iau, 19 Tachwedd 2009

Llwyddodd Joe Jordan, llwyddodd Diego Maradona, a nos Fercher, fe lwyddodd Thierry Henry i dwyllo mewn gêm allweddol yng Nghwpan y Byd.

ireland_france.jpg

Os fu tystiolaeth erioed i ddefnyddio technoleg mewn gemau allweddol, yna fe ddaeth yr awr pan ddefnyddiodd Thierry Henry ei law i reoli'r bêl cyn croesi a gweld William Gallas yn sgorio i guro Gweriniaeth Iwerddon ac anfon Ffrainc i ffeinals Cwpan y Byd.

Welodd y dyfarnwr ddim, welodd cynorthwywyr y dyfarnwr ddim, a bydd Iwerddon yn gweld dim o'r cyfoeth ariannol a fydd yn llifo i Ffrainc yn sgil y twyllo.

Mae yna rywfaint o ymdrech wedi ei wneud i geisio datrys digwyddiadau dadleuol yng ngheg y gôl yng nghystadlaethau Cwpan Europa.

Gwelais Everton yn chwarae Benfica yn ddiweddar gyda dau is-ddyfarnwyr yn sefyll wrth geg y naill gôl a'r llall.

Ar noson oer roedd y ddau is-ddyfarnwr yn ysu am gael rhywbeth i'w wneud - unrhyw beth, a phan oedd y bêl yn cyrraedd y pen pellaf o'r cae, roedd yr is-ddyfarnwyr yn crwydro gan sefyll wrth ochor y golwr rhywle o gwmpas y smotyn gwyn yng nghanol y cwrt cosbi.

Ni wnaeth yr un ohonynt unrhyw gyfraniad, ac yn wir y farn gyffredinol ydi fod yna ddau ddyfarnwr arall mewn gemau o'r fath, ac yn barod i gymhlethu bywyd chwaraewyr yn fwy byth!

Mae'r amser wedi dod i ddefnyddio technoleg mewn gemau pêl-droed, yn union fel ac a geir mewn gemau rygbi, neu tennis, er enghraifft.

Mae Joe Jordan yn cael ei gofio am dwyllo, mae Diego Maradona yn cael ei gofio am gyfeirio at Law Duw wrth iddo hefyd dwyllo.

Yr wythnos yma, mae Llaw'r Llyffant wedi llwyddo i anfon Ffrainc a Henry i Ffeinals Cwpan y Byd!

Ond tybed sut y bydd cefnogwyr pêl-droed yn cofio Thierry Henry yn y dyfodol?

Mae llawer o hyfforddwyr a rhieni yn ceisio argyhoeddi chwaraewyr ifanc na ddaw unrhyw lwyddiant wrth dwyllo.

Ceisiwch eu hargyhoeddi o hyn yn sgil gweithred Thierry Henry, ac absenoldeb technoleg gyfoes!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:09 ar 20 Tachwedd 2009, D. Enw ysgrifennodd:

    Mae FIFA yn erbyn gwledydd bychan. Petai Gwyddel wedi llawio'r bel yn buasau gem ailgyfle siwr Dduw.

    Ac ers pryd mae FIFA wedi dechrau 'seedio' timau i'r gemau yma hefyd? Ymdrech arall unwaith eto gan FIFA i wneud siwr nad yw'r glwedydd bychain yn llwyddo. Hwre dros Slofenia - mae'n siwr fod FIFA'n benwan na fydd Rwsia yn y ffeinal.

    A yw'r FAW, FAI, SFA a'r cymdeithasau pel-droed gwledydd llai am ddod at eu gilydd a rhoi diwedd wedi y busnes seedio yma?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.