Y dechrau gwaethaf posib!
Helo bawb!
Bellach mi ydw i, Meilir, Osian, Dylan a Gerallt wedi cyrraedd Sunny Beach ym Mwlgaria ar ein taith 'Baku or Bust' i Azerbaijan gydag Elusen Gôl - ond yn anffodus dani wedi colli aelod pwysicaf y tîm - Val y fan!!
Mi ddechreuodd popeth yn dda i ni. Croesi o Dover nos Wener. Yn anffodus i Neil Dymock - trefnydd y daith - mi dorrodd ei gar lawr cyn cyrraedd Dover felly bu'n rhaid iddo fynd nôl i Gaerdydd a chychwyn eto dydd llun mewn cerbyd arall. Teithio trwy Ffrainc dydd Sadwrn gan gyrraedd dinas Heidelberg yn yr Almaen gyda'r nos. Ond dydd Sul wrth deithio ar yr Autobahn drwy'r Almaen bu'n rhaid i ni dynnu drosodd gan fod yr injan wedi gorboethi. Cafodd Val ei thynnu i garej yn Straubing lle rhoddwyd y newyddion gwaethaf posibl i ni - doedd dim modd ei thrwsio! Felly bu'n rhaid i ni ei 'sgrapio' yn y fan a'r lle. Mae'n rhaid dweud, roeddem i gyd braidd yn siomedig oherwydd roeddem wedi rhoi ein meddyliau ar ddreifio'r fan yr holl ffordd ar draws Ewrop i Azerbaijan gan ei rhoi i achos da yno.
Un peth da ddaeth o stopio yn Straubing - cawsom y cyfle i fynd i Gartref Plant yno gan roi crysau pêl droed, llyfrau, dillad a manion eraill iddynt. Roedd hi'n amlwg eu bod yn gwerthfawrogi hyn yn fawr iawn, ac roedd y pump ohonom wedi mwynhau'r profiad o helpu plant llai ffodus na ni.
Felly dyma ni ym Mwlgaria yn disgwyl i weddill y criw gyrraedd yma. Cawsom awyren o Munich i Fwlgaria bore 'ma. Bydd y ceir eraill ar y daith yn cyrraedd yma nos fory / dydd iau cyn mynd ymlaen am Twrci, Georgia ac Azerbaijan. Bydd y pump ohonom yn gwasgu ein hunain mewn i'r ceir eraill sydd ar y daith er mwyn cyrraedd Baku.
Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i ni dros y diwrnodau diwethaf, ond mae'r pump ohonom yn benderfynol o gyrraedd Baku erbyn Mehefin y 6ed. Rydym yn ddiolchgar dros ben i weddill y ceir am gytuno i'n cludo yno wedi iddynt gyrraedd Bwlgaria.

Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 