Ethol Dyfarnwr y Flwyddyn
Diwedd tymor ac amser rhannu'r gwobrau.
Mae Ryan Giggs eisoes wedi ei ddewis yn Chwaraewyr y Flwyddyn, gyda Gareth Owen yn derbyn yr un clod yng Nghymru, ac fe fydd enw Rheolwr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi cyn hir hefyd.
Yr unig rai na fydd yn cael gwobr ydi'r dyfarnwyr, a heb gyfraniad y dynol rai yma, ni fyddai unrhyw gêm o gwbl yn cael ei chynnal.
Fe allwch ofyn os mai cynnal gêm yntau ei gwneud yn gyffrous mae llawer o ddyfarnwyr,
Fe aeth y cyffro yn hollol Drogbananas nos Fercher wrth i'r dyfarnwr Tom Ovrebo gael ei Lampastio gan chwaraewyr Chelsea ar ôl methu a churo Barcelona yng Ngwpan Ewrop.
Beth ddigwyddodd - anfon Abidal o Barcelona oddi ar y cae am ddim byd? Na. Bai y dyfarnwr oedd y ffaith fod Didier Drogba druan wedi methu'cyfle mwayf euraidd erioed ar ol 53 munud i sicrhau ail gôl. Ond y dyfanwr gafodd y bai, am fethu â rhoi cyfres o benaltis i Chelsea, cyn gweld Barca yn sgorio'r gôl a roddodd Roman termini ar obeithion ymerodraeth gyfandirol Mr Abramovich a'i griw, gan fwrw damnedigaeth uffern ar Stamford Bridge.
Ond yn ôl at y gwobrau - os medr chwaraewr dderbyn esgid aur a'i gosod ar silff ben tân, pam na all dyfarnwr dderbyn chwiban aur yn flynyddol?
Beth am gynnig chwiban yn cynnwys neges berthnasol fel momento o'r gemau gorau efallai, a'r neges hwnnw gan chwaraewyr fel Didier Drogba, gyda chyngor ble i roi y chwiban ddisglair.
Dyma'ch cyfle chi felly i fynegi eich barn am y dyfarnwyr, ond cofiwch wneud hynny mewn dull y gall pawb ei ddeall, a nid mynd yn hollol Dididwlali ynglyŷn â'r peth.
Mae Dafydd ap Gwilym eisoes wedi cael ei ypsetio gan rhywun, yn union fel y cafodd Didier Drogba. Dyma oedd ymateb y bardd o Geredigion:-
" Boed iddo yn ei law lwyth
O faw diawl; ef a'i deulu"
Beth ydi'ch ymateb chi felly? Ewch amdani i ethol 'Dyfarnwr y Flwyddyn' - Ar y Marc'. Pwy fydd eich dewis chi, a pham?
Cysylltwch, a gadewch i ni wybod.
Glyn Griffiths

Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 