Azerbaivan
Helo bawb fy enw yw Owain Llyr - dwi'n gweithio ar raglen C2 ar Radio Cymru ond wythnos nesaf yn cychwyn ar antur anferth ar draws Ewrop fydd yn gweld criw ohonom yn dreifio dros 3000 o filltiroedd trwy 10 o wledydd er mwyn mynd i weld gêm bêl droed.
Na, tyda ni heb golli arni! Mae yna reswm da pam ein bod yn gwneud hyn. Rydym yn cymryd rhan mewn taith o'r enw "Baku or Bust" - taith sydd wedi cael ei threfnu gan Elusen Gôl. Elusen ydi hi â ffurfiwyd ym mis Tachwedd 2002 gan grŵp o gefnogwyr pêl droed Cymru oedd am wneud gwahaniaeth i'r gymuned leol yn Baku, Azerbaijan wrth iddynt ddilyn y tîm cenedlaethol. Yn dilyn ymweliadau gyda nifer o gartrefi plant yn Baku gan roi crysau pêl droed, peli teganau a rhoddion ariannol iddynt, daeth ymweliadau o'r fath yn rhan annatod o'r teithiau tramor hyn.
Felly gan fod gan Gymru gêm yn Rowndiau Rhagbrofol Cwpan y Byd 2010 yn Baku ar y 6ed o Fehefin 'leni, penderfynodd yr Elusen godi arian tuag at Elusennau Azerbaijan a Dwyrain Ewrop trwy gal criwiau o gefnogwyr Cymru i brynu ceir a dreifio'r holl ffordd i Baku cyn rhoi'r cerbyd fel rhodd i Elusen yno cyn hedfan adref ar ôl buddugoliaeth (gobeithio) i Gymru yn erbyn Azerbaijan ar y 6ed o Fehefin
Mae 10 car yn cymryd rhan yn y daith hon - mae 4 arall yn teithio gyda fi sef Osian Edwards, Gerallt Williams, Dylan Owen a Meilir Williams. Llwyddom i brynu cludwr pobl am fargen o £300 yn Rhydaman ddechrau'r flwyddyn ac ers hynny wedi bod yn codi arian trwy gynnal gwahanol weithgareddau.
Tydi cynllunio'r daith ddim wedi bod yn hawdd chwaith. Un o'r problemau mwyaf yw'r ffaith bod Llywodraeth Azerbaijan yn gyndyn o adael cerbydau yr ydych yn eu dreifio ar yr ochr dde i mewn i'r wlad! Problem sydd fwy neu lai wedi ei datrys bellach diolch byth! Dwi'n siŵr y bydd hi ddim yn hawdd bob amser cael ei gadael i mewn i rai gwledydd - yn enwedig gan fod dim un ohonom yn gallu siarad unrhyw iaith yn Nwyrain Ewrop! Ac wrth gwrs, ni allwn fod yn hollol siŵr y gwneith y car gyrraedd pen y daith! Os bydd y cerbyd yn torri i lawr yn Hwngari ella y bydd yn rhaid i ni gerdded i Azerbaijan wedyn!!
Ond mae rhai rhannau o'r daith yn swnio'n ddiddorol dros ben. Mae Kutaisi - 2il ddinas fwyaf Georgia gyda chysylltiad agos a Chasnewydd yma yng Nghymru, ac mae llawer o weithgareddau wedi eu trefnu yno i ni. Rydym yn chwarae yn erbyn tîm pêl droed o'r ddinas pan yno - mewn stadiwm sy'n dal 20,000 o gefnogwyr! Tybed faint ddoith i weld y gêm yna!! Ond mi fydd hi'n grêt cael cynrychioli Cymru mewn gem - a bydd rhaid gwneud yn siŵr ein bod yn ennill!
Rydym yn cychwyn ar ein taith o Gaerdydd ddydd Gwener nesaf yr 22ain o Fai. Mi fyddaf yn recordio digwyddiadau'r daith a bydd ein hanes i'w glywed mewn rhifyn arbennig o Ar Y Marc ar y 13eg o Fehefin. Mi fyddaf yn cadw cofnod o'r daith ar y blog hwn, felly cewch ddarllen fyny am ein hanturiaethau yma!
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 