Cynghrair y detholion
Wn i ddim os mai llongyfarch y Bala, yntau cydymdeimlo â nhw y dylwn wneud.
Ar ôl yr holl drafferth o ennill dyrchafiad i Uwchgynghrair Cymru, mae'r Bala, fel pob tîm arall, wedi dod i ddeall yr wythnos yma mai dim ond y deg tîm uchaf fydd yn cael aros yn yr Uwchgynghrair ar ôl y tymor nesaf, pan ddaw Uwchgynghrair y deg etholedig (neu'r 'Super Ten') i fodolaeth.
Bydd y timau na chaiff eu hystyried fel y detholedig rai yn disgyn yn ôl i'r cynghreiriau is - sef Cynghrair Huws Gray Fitlock Cymru yn y Gogledd, a Chynghrair McWhirter Cymru yn y De, ac yn gorfod brwydro eto am yr hawl i fod ymysg detholion pêl-droed y genedl.
Bydd meini prawf hefyd yn cael eu gosod yn unol â gofynion trwyddedu timau mewn cynghreiriau cenedlaethol, a bydd safle tîm yn y gynghrair yn cael ei ystyried os fydd yna fwy na deg clwb yn ymateb i'r gofynion yma, sydd yn deillio o ganllawiau UEFA.
Dim ond saith clwb sydd wedi llwyddo i gael trwydded eleni (wrth fodloni gofynion sydd yn debyg i'r rheini ar gyfer chwarae yn Ewrop) gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, sef Aberystwyth, Bangor, Caerfyrddin, Llanelli, Port Talbot, Y Rhyl a'r Seintiau Newydd ac mae'n eithaf tebyg mai dyma'r saith tîm fydd yn ffurfio craidd yr Uwchgynghrair newydd.
Os felly, mae tipyn o frwydr o flaen y Bala a'r gweddill os am hawlio un o'r tri safle sydd yn weddill ar gyfer tymor 2010/11, a bydd rhaid ffarwelio â'r Bala dirion deg a nifer o dimau eraill yn fwyaf sydyn, os na ddaw llwyddiant yn fuan.
Pwy a wŷr be all ddigwydd pe bae Casnewydd, Merthyr a Bae Colwyn yn penderfynu ymuno, heb sôn am dimau yn cynrychioli Wrecsam, Abertawe a Chaerdydd.
Ai dyma wir sefyllfa'r gêm yng Nghymru, neu a ddylid ystyried Uwchgynghrair a fyddai, er waethaf barn llawer, yn cynnwys timau sydd ar hyn o bryd yn chwarae o fewn cynghreiriau Lloegr os am gael gwir ystyr i Gynghrair y 'Super Ten' yn hytrach na gweld cynghrair na fydd yn deilwng i fawr neb ond 'Super Ted'?
Wedi'r cwbl, tydi Merthyr druan ddim yn ei chael yn hawdd teithio dros Glawdd Offa'r dyddiau yma.
A oes perygl i eraill wynebu'r un trafferthion, ac onid gwell fyddai edrych tuag adref?
Beth yw eich barn chi? Cysylltwch a gadewch i mi wybod.
Glyn Griffiths

Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 