Dyfodol Syr Alex....
Gyda Manchester United yn llwyddiannus unwaith eto yn yr Uwchgynghrair, a ffeinal yng Nghwpan Ewrop yn erbyn Barcelona o'u blaenau, mae sylw nifer o bobol yn troi at ddyfodol y rheolwr Syr Alex Ferguson.
Y cyngor mae nifer yn ei gael ynglŷn ac ymddeol, ydi darparu yn fanwl ar ei gyfer, a dyma rhywbeth y gall Syr Alex ei wneud yn hawdd, gan sicrhau fod dyfodol y clwb yn aros o fewn y teulu, a'r linach barhaol yma yn cael ei warantu yn ariannol gan ysbrydoliaeth y teulu Glazers.
Mae brawd Syr Alex, sef Martin Ferguson, eisoes yn bugeilio'r praidd newydd wrth weithio iddo fel sgowt Ewropeaidd, ond draw yn y dwyrain mae seren newydd yn codi.
Gall Syr Alex, yn ei ddoethineb, wneud dim gwaeth na dilyn y seren a'i harwain i aros uwchben stabl y plasdy penagored mawr yn Old Trafford.
Mae bugeiliaid Salford a doethion eraill o'r dwyrain pell eisoes yn pentyrru i'r ganolfan addoli yma yn gyson, a byddant yn siw^r o groesawu seren newydd sydd eisoes wedi ennill dwy bencampwriaeth yn olynnol, ac yn ymddangos fel y dilyniant perffaith i'w dad - ac fe elwir y mab bychan yma yn Darren.
Ie, un sydd eisoes wedi gorwedd ym mhreseb teuluol Syr Alex, sef rheolwr Peterborough United, a mab Syr Alex, Darren Ferguson - rheolwr sydd newydd ennill dyrchafiad i faesydd moethus y Bencampwarieth, flwyddyn ar ôl arwain ei dim o anialwch Adran Dau i borfeydd gwelltog yr Adran Gyntaf.
Be well felly na chael y mab yn cael ei arwain gan ei dad, fel is-reolwr, gan ddarparu'r ffordd a fuasai'n gweld y Darren dirion dalentog yn sicrhau fod swydd y rheolwr yn aros yn y teulu pan ddaw awr ymadawiad Syr Alex?
Ai dyma'r ffordd tua'r dyfodol ar Old Trafford gan sicrhau fod Manchester United yn parhau yn llwyddiannus yn enw y Tad, y Mab a'r Glazers?
Oes gennych chi gynnig gwell?
Cysylltwch....
Glyn Griffiths
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 