Ta ta Shearer?
Yng nghanol cefnogwyr Aston Villa y Sul diwethaf oedd banner yn gwawdio cefnogwyr Newcastle United gyda'r neges:- 'Pwy fydd eich Meseia nesaf. Ant neu Dec'?
Ar sail perfformiad tila Newcastle, mae angen mwy na Meseia arnynt, ac fe fydd rhaid i Ant a Dec wneud gwyrthiau os am gael hyd i dalent a fyddai'n gallu troi hynt a helynt eu hoff dîm o gwmpas.
Dyma'r tîm, a oedd, chwe blynedd yn ôl, yn drydydd yn yr Uwchgynghrair, a'u llygaid ar chwarae yn erbyn Barcelona yn Ewrop, ond heddiw yn paratoi i wynebu Barnsley yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf.
Ond dyna ble mae Newcastle yn haeddu bod, yn dilyn cyfres o benderfyniadau syfrdanol, annoeth, a hollol ddisynnwyr a gafodd eu gwneud yn ystod y tymor. Hwyrach fod yna dalent ym Mhrydain, ond doedd dim llawer ohono yn amlwg yn Newcastle, mewn unrhyw ffordd.
Gyda nifer o chwaraewyr yn edrych ddim gwell na'r perfformwyr anobeithiol hynny y gwelir ar 'Britain's Got Talent, fe lithrodd Newcastle yn llipa allan o'r Uwchgynghriar bnawn Sul, heb unrhyw fath o ysbryd cystadleuol, angerdd nac awch yn eu chwarae.
Tybed a yw Alan Shearer yn ystyried ei statws fel 'celeb' ac mai 'get me out of here' fyddai ei ymateb orau, gan ddychwelyd i sofa gyffyrddus 'Match of the Day' y tymor nesa, tra bydd y cefnogwyr yn dioddef anghysuron y 'bushtracker trials' wrth geisio achub eu croen ynghanol jyngl y Bencampwriaeth yn Scunthorpe a Doncaster?
'Sob on the Tyne' efallai, ond mae'r Uwchgynghrair yn llawer gwell heb anhrefn ac annoethineb Newcastle, a heb chwaraewyr sydd ddim digon da, a hefyd heb y chwaraewyr hynny sydd wedi gweld dyddiau gwell.
A fydd yna atgyfodiad yn Newcastle, neu a fyddant yn efelychu taith a chwymp Leeds United, Charlton Athletic, a Southampton i Adran Un ar ddiwedd y tymor nesaf ?
Glyn Griffiths.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 