Cefnogwyr Bangor ddim eisiau teithio
Rownd Derfynol arall yng Nghwpan Cymru, a ffwdan arall.
B'nawn Llun nesa bydd Bangor - deiliaid y Cwpan - yn teithio i Barc y Sgarlets yn Llanelli i wynebu Aberystwyth, ond tydi cefnogwyr tim Ffordd Ffarrar ddim yn hapus.
Rhy bell, ar Ŵyl y Banc, a dim tegwch mewn gorfod teithio cyhyd ar adeg mor brysur !
Ydi pob gêm fawr sydd yn ymwneud â Bangor yn gysylltiedig a thrafferthion?
Yn y Drenewydd, y llynedd, anghofiodd rhai o ddilynwyr Bangor sut oedd ymddwyn - ac fe redodd carfan fechan ohonynt ar y cae a chreu anhrefn.
Cafodd clwb Bangor ddirwy o bum mil o bunnau wedi ei gohirio a'u beirniadu gan Gymdeithas Bêldroed Cymru.
Eleni, mae'r Ffeinal mewn stadiwm gyfoes, ddiogel. Ond ers y cyhoeddiad does dim ond cwyno wedi dod o gyfeiriad Bangor, gydag aelod o Lywodraeth y Cynulliad hyd yn oed yn ymuno yn y gŵyn.
Does dim wedi cael ei glywed o'r Cynulliad ynglyn a sefydlu stadiwm newydd yn y Gogledd, ond yn sydyn mae yna drafferthion ynghlwm a theithio i'r De!
Mae rhywun yn amau a oes unrhyw bwrpas i Fangor ennill Cwpan Cymru - gan y byddai yn rhaid teithio i un o wledydd Ewrop wedyn, ac os na fyddant yn teithio i Ddulyn mewn llong o Gaergybi, a fyddem yn clywed mwy o gwyno am deithiau pell ? Wedi'r cyfan mae Lithuania yn llawer pellach na Llanelli.
Da chi, rhowch y gorau i'r cwyno plwyfol, a dowch i ddeall na ellir chwarae pob gêm bwysig yn eich gardd gefn.
Mae plant yr Urdd yn deall,ac yn barod i godi'n fuan a theithio yn bell er mwyn ennill gwobr genedlaethol.
Beth sydd yn rhwystro cefnogwyr Bangor rhag gwneud yr un peth?

Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 
SylwadauAnfon sylw
Gyda'r llaw, awdur y darn bach yma ydy Mr Glyn Griffiths, cyn i chi ffonio Dylan Jones / Gary Pritchard / Meilir Owen i gwyno!!!!
Diolch
Gareth
Ar Y Marc