Trosglwyddo gwres i newid cyflwr
Cromlin gwresogi yw graff sy'n dangos tymheredd sylwedd wedi'i blotio yn erbyn faint o egni mae wedi'i amsugno. Efallai y gweli di gromlin oeri hefyd, sy'n deillio o sylwedd sy'n oeri ac yn newid cyflwr.
Mae'r tymheredd yn aros yr un fath wrth i solid ymdoddi neu wrth i hylif ferwi yn ystod newid cyflwr, er bod egni gwresEgni gwres yw cynnyrch gronynnau'n symud, fel atomau, ïonau a moleciwlau. Weithiau, mae'n cael ei alw'n egni thermol. yn cael ei amsugno.
Mae’r tymheredd hefyd yn aros yr un fath wrth i hylif rewi, er bod egni gwres yn dal i gael ei ryddhau i'r amgylchoedd.
Mae gwres cudd sbesiffig sylwedd yn ffordd o fesur faint o egni gwres sydd ei angen i'w doddi neu ei ferwi. Hwn yw'r egni sydd ei angen i doddi neu ferwi 1 kg o'r sylwedd.
Mae gan wahanol sylweddau wahanol wres cudd sbesiffig. Mae gwres cudd sbesiffig sylwedd penodol yn wahanol ar gyfer berwi ac ymdoddi. Mae’r tabl yn dangos rhai enghreifftiau:
| Sylwedd | Ymdoddi (kJ/kg) | Berwi (kJ/kg) |
| Dŵr | 334 | 2260 |
| Plwm | 23 | 871 |
| Ocsigen | 13.9 | 213 |
| Sylwedd | Dŵr |
|---|---|
| Ymdoddi (kJ/kg) | 334 |
| Berwi (kJ/kg) | 2260 |
| Sylwedd | Plwm |
|---|---|
| Ymdoddi (kJ/kg) | 23 |
| Berwi (kJ/kg) | 871 |
| Sylwedd | Ocsigen |
|---|---|
| Ymdoddi (kJ/kg) | 13.9 |
| Berwi (kJ/kg) | 213 |
Ymchwilio i wres cudd
Gallwn ni ganfod gwres cudd dŵr yn y ffordd hon.
- Defnyddio gwresogydd trydanol i doddi iâ am rai munudau.
- Cyfrifo'r egni trydanol sydd wedi'i ddefnyddio drwy luosi pŵer y gwresogydd ag amser.
- Cofnodi màs y dŵr sydd wedi ymdoddi a chyfrifo'r berthynas rhwng mewnbwn egni a màsSwm y mater sydd mewn gwrthrych. Mae màs yn cael ei fesur mewn cilogramau (kg).
- Yna, canfod faint o wres sydd ei angen i newid un cilogram o iâ (y gwres cudd).
Dyma'r hafaliad sy'n rhoi'r berthynas rhwng egni a gwres cudd sbesiffig.
Q = m × L
Mae'n debygol y bydd dy werthoedd yn agos i'r rhai yn y tabl uchod, ond ddim yn union yr un fath. Mae'r gwahaniaethau rhwng dy werth di a'r rhai yn y tabl yn debygol o fod oherwydd colledion egni i'r ystafell lle roeddet ti'n gweithio.
Gallwn ni ganfod gwres cudd stêm gan ddefnyddio calorimedr a generadur stêm.
Mae gwres cudd toddi weithiau’n cael ei alw wrth yr enw gwres cudd ymdoddi. Hefyd, weithiau’r enw sy’n cael ei ddefnyddio am wres cudd berwi yw gwres cudd anweddu.