Dysgu am ddamcaniaeth ginetig, sy'n cynnwys defnyddio'r graddfeydd Celsius a Kelvin, y berthynas rhwng gwasgedd, tymheredd a chyfaint nwy, a newidiadau egni pan mae newidiadau cyflwr yn digwydd.
Mae Deddf Charles yn datgan, os yw nwy'n cael ei wresogi heb i'r gwasgedd newid, y bydd y cyfaint yn newid. Felly, ar gyfer màs sefydlog o nwy ar wasgedd cyson, bydd cyfaint ÷ tymheredd yn aros yr un fath.
Deddf Boyle
Mae deddf Boyle yn datgan, ar gyfer nwy ar dymheredd cyson, bod gwasgedd × cyfaint hefyd yn gyson. Felly, mae cynyddu'r gwasgedd yn golygu y bydd y cyfaint yn cynyddu cyn belled â bod y tymheredd yn aros yn gyson.
Beth sy’n digwydd os ydyn ni'n newid tymheredd cyfaint sefydlog o nwy?
Pan mae'r tymheredd yn cynyddu, mae gronynnau'r nwy'n symud yn gyflymach ac mae'r gwrthdrawiadau'n mynd yn galetach ac yn digwydd yn amlach. Mae hyn yn golygu bod y gwasgedd hefyd yn cynyddu.
Pan mae'r tymheredd yn lleihau, mae gronynnau'r nwy'n symud yn arafach ac mae'r gwrthdrawiadau'n mynd yn llai caled ac yn digwydd yn llai aml. Mae hyn yn golygu bod y gwasgedd hefyd yn lleihau.
Yn y pen draw ar sero absoliwt, sef -273°C, mae'r moleciwlau'n stopio symud a dydy'r nwy ddim yn rhoi dim gwasgedd o gwbl. Rydyn ni’n galw’r tymheredd hwn yn sero absoliwt, sef y tymheredd oeraf posibl.
Mae egni cinetig cyfartalog y gronynnau mewn nwy mewn cyfrannedd union â thymheredd KelvinUned sy'n mesur tymheredd ar y raddfa absoliwt. Mae wedi'i enwi ar ôl yr Arglwydd Kelvin. Mae 0 gradd Celsius yn hafal i 273 Kelvin. y nwy.