Damcaniaeth ginetigNewid cyflwr

Dysgu am ddamcaniaeth ginetig, sy'n cynnwys defnyddio'r graddfeydd Celsius a Kelvin, y berthynas rhwng gwasgedd, tymheredd a chyfaint nwy, a newidiadau egni pan mae newidiadau cyflwr yn digwydd.

Part ofFfisegTrydan, egni a thonnau

Newid cyflwr

Mae sylweddau’n gallu newid cyflwr, fel arfer wrth gael eu gwresogi neu eu hoeri. Er enghraifft, mae dŵr hylifol yn troi'n stêm os caiff ei wresogi ddigon, ac mae'n troi'n iâ os caiff ei oeri ddigon. Mae newidiadau cyflwr yn gildroadwy – gallwn ni doddi iâ ac yna ei rewi eto. Does dim elfennau na chyfansoddion newydd yn ffurfio.

Mae defnyddiau'n storio , oherwydd mudiant gronynnau a'r bondiau cemegol rhyngddynt.

Sychdarthiad yw enw’r broses o newid o solid i nwy neu o nwy i solid, heb droi’n hylif rhwng y ddau gyflwr.

Pan gaiff sylwedd ei wresogi:

  • mae ei egni mewnol yn cynyddu
  • mae ei ronynnau'n symud mwy
  • mae bondiau rhwng gronynnau'n torri wrth i sylwedd doddi neu anweddu, neu i ffurfio nwy o solid

Pan gaiff sylwedd ei oeri:

  • mae ei egni mewnol yn lleihau
  • mae ei ronynnau'n symud llai
  • mae bondiau rhwng gronynnau'n ffurfio wrth i sylwedd gyddwyso neu rewi, neu sychdarthu i ffurfio solid o nwy

Cadwraeth màs

Mae’r gronynnau mewn sylwedd yn aros yr un fath wrth iddo newid cyflwr; dim ond y pellter rhyngddynt, eu trefniad neu eu mudiant sy'n newid. Mae hyn yn golygu:

  • bod natur gemegol y sylwedd ei hun yn aros yr un fath
  • bod màs y sylwedd yn aros yr un fath

Er enghraifft, mae 10 g o ddŵr yn berwi i ffurfio 10 g o stêm, neu'n rhewi i ffurfio 10 g o iâ. Rydyn ni'n galw hyn yn gadwraeth màs.