Sêr a phlanedauY Bydysawd rydyn ni’n gallu ei arsylwi
Mae’r Ddaear yn un o wyth planed yng nghysawd yr haul. Mae cysawd yr haul yn rhan o gasgliad enfawr o sêr, sef galaeth, ac mae’r galaethau’n ffurfio’r bydysawd.
Dyma’r hyn rydyn ni’n gallu ei weld wrth edrych allan ar y gofod drwy delesgopau o’r Ddaear.
Galaethau
Ein galaethClwstwr o filiynau o sêr, sy’n cael eu dal gyda’i gilydd gan ddisgyrchiant. ni yw’r Llwybr Llaethog. Mae pob smotyn o olau yn y llun yn seren. Gallai fod planedau mewn orbit o gwmpas pob seren.
Question
Pam mae hi’n fwy disglair yng nghanol galaeth?
Mae mwy o sêr yno. Mae mwy o ddisgyrchiant yno. Gallai fod twll duGweddill dwys seren enfawr yw twll du. Mae ganddo faes disgyrchiant mor gryf fel nad yw golau'n gallu dianc rhagddo. yno.
Y Bydysawd
O’r Ddaear, mae telesgopau fel Hubble yn gallu gweld galaethau, nifylau a sêr pell i ffwrdd a thynnu lluniau ohonynt. Hwn yw’r y BydysawdYr holl egni a mater sy'n bodoli. rydyn ni’n gallu ei arsylwi. Galli di ddysgu mwy amdano yn y canllaw astudio Bitesize Y Bydysawd.