Drwy astudio sbectra amsugno atomig, gallwn ni ganfod cyfansoddiad cemegol sêr. Mae hyn yn dangos bod galaethau'n symud oddi wrthyn ni mewn Bydysawd sy'n ehangu.
Drwy astudio'r sbectra llinellau sy'n cael eu cynhyrchu gan nwyon poeth a'u hamsugno gan nwyon oerach, gallwn ni ganfod pa elfennau sydd mewn sêr.
Sbectrwm allyru di-dor
Pan mae mater yn boeth iawn, mae'n allyrru golau. Mae'r golau hwn, wrth edrych arno drwy brism neu gratin diffreithiantDarn o ddeunydd â llinellau arno sy’n cynhyrchu sbectrwm sy’n ymledu golau., yn dangos holl donfeddi golau gweladwy. Rydyn ni’n galw hwn yn sbectrwm allyrru di-dorSbectrwm cyfan o liwiau sy’n dangos pob tonfedd golau.. Mae ffynhonnell golau fel seren neu fwlb ffilament yn rhoi sbectrwm allyrru di-dor.
Pan mae nwy yn boeth iawn, dydy e ddim yn allyrru golau ar bob tonfedd. Dydy nwyon poeth ddim yn cynhyrchu sbectrwm allyrru di-dor.
Sbectrwm llinellau allyrru
Dim ond rhai tonfeddi golau penodol mae nwy poeth yn eu hallyrru, i gynhyrchu llinellau golau ar gefndir tywyll. Rydyn ni’n galw hwn yn sbectrwm llinellau allyrruCyfres o linellau lliwgar ar gefndir tywyll. Maent yn cael eu cynhyrchu gan nwyon poeth.. Mae cwmwl o nwy ar ei ben ei hun, heb ffynhonnell golau y tu ôl iddo, yn cynhyrchu sbectrwm llinellau allyrru.
Sbectrwm llinellau amsugno
Pan mae nwy yn oer, mae'n amsugno yr un tonfeddi golau y byddai'n eu hallyrru pan mae'n boeth. Felly, os yw sbectrwm di-dor yn mynd drwy nwy oerach, bydd yn 'tynnu allan' neu'n amsugno rhai tonfeddi golau i gynhyrchu cyfres o linellau tywyll ar sbectrwm golau di-dor. Rydyn ni’n galw hwn yn sbectrwm llinellau amsugnoLlinellau tywyll ar sbectrwm allyrru di-dor. Maent yn cael eu cynhyrchu gan nwyon oer sydd â ffynhonnel boeth gyson y tu ôl iddo, fel seren.. Felly, pan mae'r golau hwn yn mynd drwy nwy, gall yr atomau nwy amsugno rhai tonfeddi i gynhyrchu sbectrwm llinellau amsugno.
Mae llinellau amsugno du hydrogen ar yr un donfedd â llinellau allyrru llachar hydrogen.
Question
Defnyddia'r sbectra atomig i adnabod yr elfen anhysbys.
Strontiwm. Mae ganddo yr un sbectra llinellau â'r elfen anhysbys.