Y BydysawdPelydriad cefndir microdonnau cosmig

Drwy astudio sbectra amsugno atomig, gallwn ni ganfod cyfansoddiad cemegol sêr. Mae hyn yn dangos bod galaethau'n symud oddi wrthyn ni mewn Bydysawd sy'n ehangu.

Part ofFfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Pelydriad cefndir microdonnau cosmig

Yn 1927, cynigiodd Georges Lemaître fod y Bydysawd wedi dechrau â ffrwydrad o'r enw y Glec Fawr. Dangosodd ymchwil Hubble i ruddiad golau galaethau fod y Bydysawd yn ehangu, a bod y galaethau wedi tarddu o un pwynt. Pe bai ehangiad y Bydysawd yn cael ei wrthdroi, byddai popeth yn dychwelyd yn ôl i un pwynt.

Roedd y dystiolaeth hon yn ategu Lemaître a .

Yn 1948, awgrymwyd, pe bai'r Bydysawd wedi dechrau â ffrwydrad, y dylai fod pelydriad cefndir microdonnau yn y gofod o ganlyniad i'r ffrwydrad. Cafodd y pelydriad hwn ei ddarganfod yn 1964. Hwn yw'r neu'r PCMC.

Mae'r PCMC yn ail ddarn o dystiolaeth i ddangos bod y gofod yn ehangu, ac mae'n ategu model y Glec Fawr ar gyfer tarddiad y Bydysawd. Rydyn ni'n credu bod tonfeddi byr y pelydriad gama gafodd ei allyrru yn y ffrwydrad gwreiddiol wedi cael eu hymestyn wrth i'r gofod ehangu i ffurfio microdonnau â thonfeddi hirach.