Sgalarau, fectorau, buanedd a chyflymder
Mae grymoedd yn gallu newid safle, siâp neu fudiant gwrthrych. Maen nhw'n gallu gwneud i wrthrychau gyflymu, arafu neu newid cyfeiriad. Cyfeiriad symud sy'n dangos y gwahaniaeth rhwng mesur sgalar a fector – dyma'r gwahaniaeth rhwng buanedd a chyflymder gwrthrych.
Buanedd
Mae buanedd yn mesur pa mor gyflym mae rhywbeth yn teithio. Hwn yw'r pellterMesur o hyd, hynny yw pa mor bell mae rhywbeth yn symud, neu pa mor bell yw dau beth oddi wrth ei gilydd. teithio mewn uned amser. Rydyn ni'n mesur buanedd mewn m/s neu km/h (neu mya mewn ceir yn y Deyrnas Unedig).
\(\text{buanedd}=\frac{\text{pellter teithio}}{\text{amser}}\)
Gallwn ni ddefnyddio'r triongl DST i gyfrifo buanedd, neu bellter ac amser.
Gorchuddia'r llythyren rwyt ti'n chwilio amdani i gael y fformiwla briodol.
- D = S × T
- S = D ÷ T
- T = D ÷ S
Question
Os yw car yn teithio 24 m mewn 2 eiliad, beth yw ei fuanedd?
Buanedd = pellter teithio ÷ amser
24 m ÷ 2 s = 12 m/s
Cyflymder
Yr unig wahaniaeth rhwng buanedd a chyflymder yw bod cyflymder yn ystyried cyfeiriad.
\(\text{cyflymder}=\frac{\text{dadleoliad}}{\text{amser}}\)
dadleoliadMesur sy’n disgrifio’r pellter o ddechrau taith i’w diwedd mewn llinell syth gyda chyfeiriad a ddisgrifir. Er enghraifft, gorffennodd yr heiciwr yn yr hostel 50 km i’r gogledd o’i fan cychwyn. yw'r pellter mae rhywbeth wedi'i symud mewn llinell syth neu i gyfeiriad penodol o'r man cychwyn.
Question
Os yw car yn teithio 24 m i'r dwyrain mewn 3 eiliad, beth yw ei gyflymder?
Cyflymder = dadleoliad ÷ amser
24 m ÷ 3 s = 8 m/s i'r dwyrain
Question
Rwyt ti'n cerdded yr holl ffordd o gwmpas y tŷ yn y diagram mewn amser o 20 eiliad.
a) Beth yw dy fuanedd?
b) Beth yw dy gyflymder?
a) Buanedd = pellter ÷ amser
= (10 m + 10 m + 10 m + 10 m) ÷ 20 s
= 40 m ÷ 20 s = 2 m/s
b) Dy gyflymder yw sero. Pam?
Rwyt ti wedi gorffen yn y man cychwyn. Does dim pellter net mewn llinell syth rhwng y man cychwyn a'r man gorffen. Felly, dim yw gwerth y dadleoliad.
Sgalarau a fectorau
Mesuriadau sgalarMesur â maint yn unig, ee pellter teithio yw 20 m. yw mesuriadau â maint yn unig.
Mesuriadau fectorMesuriad yw fecror. Mae ganddo faint a chyfeiriad, ee dadleoliad o 4 m i'r gogledd. yw mesuriadau â maint a chyfeiriad.
Dyma'r mesuriadau sgalar rwyt ti'n debygol o'u defnyddio mewn Ffiseg:
- pellter
- buanedd
- amser
Dyma'r mesuriadau fector rwyt ti'n debygol o'u defnyddio mewn Ffiseg:
- dadleoliad
- cyflymder
- cyflymiad
- grym
- momentwm
Question
Beth yw'r pellter mae rhedwr yn ei deithio wrth symud ar fuanedd o 9 m/s am 4 eiliad?
Pellter = buanedd × amser
9 m/s × 4 s = 36 m
Question
Faint o amser mae'n ei gymryd i deithio 256 metr ar fuanedd o 8 m/s?
Amser = pellter ÷ buanedd
256 m ÷ 8 m/s = 32 s
Question
Beth yw cyflymder trên os yw'n teithio 1,000 metr i'r de mewn 25 eiliad?
Buanedd = pellter ÷ amser
1,000 m ÷ 25 s = 40 m/s i'r de.
Paid ag anghofio nodi'r cyfeiriad.