Pellter, buanedd a chyflymiadGraffiau mudiant pellter-amser

Gallwn ni ragfynegi mudiant gwrthrych drwy ddadansoddi’r grymoedd sy'n gweithredu ar wrthrych. Mae grymoedd anghytbwys yn gallu arwain at newid buanedd neu newid cyfeiriad.

Part ofFfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Graffiau mudiant pellter-amser

Graffiau pellter-amser

Mae graffiau pellter-amser yn dangos sut mae pellter teithio gwrthrych sy'n symud yn newid gydag amser.

Mae'r graffiau hyn hefyd yn dangos a yw'r gwrthrych yn symud ar fuanedd cyson neu'n cyflymu, yn mynd yn ôl i'r man cychwyn, neu'n llonydd.

Graff pellter-amser yn dangos sut mae’r pellter a deithwyd gan wrthrych sy’n symud yn newid gydag amser. Mae 3 llinell lliw ar y graff yn cynrychioli cyflymderau gwahanol.

Rydyn ni'n dangos buanedd cyson â llinell syth yn codi. Gallwn ni ddefnyddio graddiant y graff, sef pa mor serth ydyw, i gyfrifo'r buanedd. Mae llinell serth yn golygu bod y cerbyd yn symud yn gyflym.

Mae llinell sy'n crymu tuag i fyny yn golygu bod y cerbyd yn cyflymu. Mae'r cerbyd yn cyflymu oherwydd mae'r llinell yn mynd yn fwy serth.

Mae llinell lorweddol fflat yn golygu bod y cerbyd yn llonydd, oherwydd dydy'r pellter ddim yn newid.

Graff pellter-amser gyda dwy linell lliw. Un yn dangos buanedd cyson, a’r llall yn dangos buanedd cyson, yna llonydd, yna buanedd cyson eto.

Buanedd y cerbyd sy'n dilyn y llinell werdd am y tair eiliad cyntaf yw 6 m ÷ 3 s = 2 m/s.

Cyfanswm y pellter mae'r cerbyd yn ei deithio ar y llinell werdd yw 7 m.

y cerbyd ar y llinell werdd yw 7 m ÷ 10 s = 0.7 m/s.

Buanedd y cerbyd sy'n dilyn y llinell borffor am y ddwy eiliad cyntaf yw 10 m ÷ 2 s = 5 m/s.

Edrych ar y graff pellter-amser hwn, ac ateb y cwestiynau a ganlyn.

Graff pellter-amser. Mae’r llinell yn dechrau ar 0. Ar ôl 4 eiliad mae’n cyrraedd 30 metr. O 4 i 8 eiliad mae’r llinell yn aros ar 30 metr. O 8 i 10 eiliad mae’r llinell yn codi o 30 metr i 40 metr.

Question

Pa mor bell deithiodd y cerbyd yn y pedair eiliad cyntaf?

Question

Beth oedd buanedd y cerbyd dros y pedair eiliad cyntaf?

Question

Am ba mor hir oedd y cerbyd yn llonydd?

Question

Beth oedd buanedd cymedrig y cerbyd dros y daith?