Pellter, buanedd a chyflymiadCwblhau cyfrifiadau ar gromlinau

Gallwn ni ragfynegi mudiant gwrthrych drwy ddadansoddi’r grymoedd sy'n gweithredu ar wrthrych. Mae grymoedd anghytbwys yn gallu arwain at newid buanedd neu newid cyfeiriad.

Part ofFfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Cwblhau cyfrifiadau ar gromlinau

Bydd angen i ti allu esbonio cromliniau mewn graffiau pellter-amser a chyflymder-amser, a chwblhau cyfrifiadau arnynt. Mae'r enghraifft hon yn defnyddio graff cyflymder-amser.

Graff cyflymder-amser. Mae’r llinell wedi’i rhannu’n 4 rhan yn dangos cyfraddau gwahanol o gyflymder a chyflymiad.

Edrych ar y graff, ac yna darllen yr esboniad hwn o fudiant y cerbyd rhwng 60 a 120 eiliad.

  • Edrych ar yr echelin-\(\text{y}\) fertigol. Mae angen i ti wirio pa fath o graff ydyw cyn dechrau ateb.
  • Rhwng 60 ac 85 eiliad, mae'r graff yn crymu tuag i fyny. Mae hyn yn golygu bod y cyflymder yn cynyddu ar gyfradd sy'n cynyddu. Mewn geiriau eraill, mae’r cerbyd yn cyflymu'n anunffurf.
  • Mae'r graff yn cynyddu mewn llinell eithaf syth rhwng 85 a 95 eiliad. Mae hyn yn cynrychioli cyflymiad unffurf-cyson.
  • Rhwng 95 a 120 eiliad, mae'r graff yn crymu i ddod yn llinell lorweddol. Mae hyn yn golygu bod y cyflymiad yn lleihau, hynny yw mae'r cyflymder yn cynyddu ar gyfradd sy'n lleihau.

Os wyt ti'n sefyll yr arholiad haen uwch, efallai y bydd gofyn i ti gyfrifo'r cyflymiad cyfartalog neu'r pellter teithio dros y rhan lle mae'r gromlin. I gyfrifo'r cyflymiad cyfartalog, tynna linell syth (wedi'i dangos yn wyrdd) a dod o hyd i'r graddiant.

Graff cyflymder-amser. Mae’r llinell wedi’i rhannu’n 4 rhan fel o’r blaen yn dangos cyfraddau gwahanol o gyflymder a chyflymiad. Mae gan y graff hwn ail linell werdd yn y cam olaf.

Cofia, graddiant = cyflymiad.

Cyflymiad = (15 – 0) ÷ (120 – 60) = 0.25 m/s2.

I ganfod y pellter teithio, mae angen i ti ganfod yr arwynebedd dan driongl y llinell werdd.

Arwynebedd dan y llinell = ½ × (120 – 60) × 15 = 450 m.