Mae gan wrthrych sy'n symud fomentwm, sef grymoedd sy’n achosi iddo newid. Mewn ffrwydrad neu wrthdrawiad ceir cadwraeth momentwm, lle bydd ei gyfanswm yn aros yr un fath.
Mae gan wrthrych sy’n symud fomentwm. Hwn yw tueddiad y gwrthrych i ddal i symud i’r un cyfeiriad. Mae hi’n anodd newid cyfeiriad symudiad gwrthrych â llawer o fomentwm.
Gallwn ni ddefnyddio’r hafaliad hwn i gyfrifo momentwm.
\(\text{p} = {\text{m}}\times{\text{v}}\)
Yn yr hafaliad hwn:
p yw’r momentwm mewn cilogramau metrau yr eiliad (kg m/s)
m yw’r màsSwm y mater sydd mewn gwrthrych. Mae màs yn cael ei fesur mewn cilogramau (kg). mewn cilogramau (kg)
v yw’r cyflymderBuanedd gwrthrych i gyfeiriad penodol. mewn metrau yr eiliad (m/s)
Question
Beth yw momentwm gwrthrych 5 kg sy’n symud â chyflymder o 2 m/s?
Momentwm = 5 × 2
= 10 kg m/s
Cyfeiriad
Cofia, nid dim ond màs a buanedd y gwrthrych sy’n effeithio ar y momentwm. Buanedd i gyfeiriad penodol yw cyflymder, felly mae momentwm gwrthrych hefyd yn dibynnu ar y cyfeiriad teithio. Mae hyn yn golygu bod momentwm gwrthrych yn gallu newid: