Cysyniadau mudiant pellachFfrwydradau - haen uwch yn unig

Mae gan wrthrych sy'n symud fomentwm, sef grymoedd sy’n achosi iddo newid. Mewn ffrwydrad neu wrthdrawiad ceir cadwraeth momentwm, lle bydd ei gyfanswm yn aros yr un fath.

Part ofFfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Ffrwydradau - haen uwch yn unig

Mae tanio gwrthrych o ganon hefyd yn wrthdrawiad lle mae cadwraeth momentwm yn digwydd. Gan fod y momentwm cyn y gwrthdrawiad yn sero, mae’r momentwm ar ôl y gwrthdrawiad yn sero. Mewn Ffiseg, y term am y math hwn o ddigwyddiad yw ffrwydrad.

Ystyria bêl canon â màs \({\text{m}}_{\text{B}}\) 4 kg yn cael ei thanio ar gyflymder \({\text{v}}_{\text{B}}\) 120 ms-1 o ganon â màs \({\text{m}}_{\text{C}}\) 96 kg. Mae hyn yn ein galluogi ni i ganfod adlamu’r canon \({\text{v}}_{\text{C}}\).

Pêl ganon yn cael ei thanio o wn canon.

Mae’r cyfanswm momentwm cyn tanio’r belen yn sero, felly yn ôl deddf cadwraeth momentwm mae’r momentwm ar ôl tanio’r belen hefyd yn sero.

\({\text{m}}_{\text{B}}{\text{v}}_{\text{B}}+ {\text{m}}_{\text{C}}{\text{v}}_{\text{C}}~=~{0}\), ac felly,

\((4\times 120) + (96 \times {\text{v}}_{\text{C}}) = 0\)

\({\text{v}}_{\text{C}}~=~\frac{{ - 480}}{{96}}\)

\(=~{-~5}{\text{ ms}}^{-1}\)

Mae’r arwydd negatif yn golygu bod y canon yn symud yn ôl er mwyn sicrhau cadwraeth momentwm yn y ffrwydrad. Enw’r effaith hon yw .