Mathau o ymbelydreddAdeiledd atomig

Mae gan dri gronyn isatomig wahanol wefrau a masau. Mae gronynnau ymbelydrol yn dadfeilio ac yn rhyddhau ymbelydredd alffa, beta a gama - ffynonellau ymbelydredd cefndir naturiol ac artiffisial.

Part ofFfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Adeiledd atomig

Mae'r adran hon yn disgrifio'r ar gyfer .

Y model niwclear

Atom gyda niwclews yn y canol a phum electron o'i amgylch.
Figure caption,
Adeiledd yr atom

Mae atomau'n cynnwys tri gronyn isatomig sef , ac . Mae'r protonau a'r niwtronau yn y yng nghanol yr atom. Mae'r niwclews yn llawer llai na'r atom cyfan. Mae'r electronau wedi'u trefnu mewn lefelau egni o gwmpas y niwclews.

Mae’r tabl yn dangos 'r tri gronyn isatomig hyn.

GronynMàs cymharolGwefr gymharol
Proton1+1
Niwtron10
ElectronBron yn sero–1
GronynProton
Màs cymharol1
Gwefr gymharol+1
GronynNiwtron
Màs cymharol1
Gwefr gymharol0
GronynElectron
Màs cymharolBron yn sero
Gwefr gymharol–1

Mae nifer yr electronau mewn atom bob amser yr un fath â nifer y protonau, felly mae atomau yn drydanol ar y cyfan. Mae atomau'n gallu colli neu ennill electronau. Wrth wneud hyn, maen nhw'n ffurfio gronynnau â gwefr o'r enw ïonau:

  • os yw atom yn colli un neu fwy o electronau, mae'n ffurfio ïon â gwefr bositif
  • os yw atom yn ennill un neu fwy o electronau, mae'n ffurfio ïon â gwefr negatif