Mae gan dri gronyn isatomig wahanol wefrau a masau. Mae gronynnau ymbelydrol yn dadfeilio ac yn rhyddhau ymbelydredd alffa, beta a gama - ffynonellau ymbelydredd cefndir naturiol ac artiffisial.
Gallwn ni waredu gwastraff niwclear lefel isel, fel menig halogedig, mewn safleoedd tirlenwi. Mae hi'n anoddach gwaredu gwastraff lefel uwch - mae hwn yn gallu bod yn beryglus o ymbelydrol. Gallwn ni ei ailbrosesu i echdynnu tanwydd niwclear neu ei gau mewn gwydr a'i adael yn bell o dan y ddaear.
Lefelau gwastraff niwclear
Lefel
Enghreifftiau
Gwaredu
Isel
Cyfarpar, defnyddiau a dillad amddiffynnol halogedig.
Ei waredu mewn drymiau a'i amgylchynu â choncrit, ac mewn safleoedd tirlenwi wedi'u leinio â chlai.
Canolig
Cydrannau o adweithyddion niwclear, ffynonellau ymbelydrol wedi'u defnyddio ym maes meddygaeth neu ymchwil.
Ei gymysgu â choncrit a'i roi mewn drwm dur gwrthstaen mewn storfa bwrpasol.
Uchel
Hen danwydd niwclear a chemegion o ailbrosesu tanwyddau.
Ei storio dan ddaear mewn pyllau mawr am 20 mlynedd, yna ei roi mewn casgenni storio mewn storfeydd tanddaearol pwrpasol lle mae aer yn gallu cylchredeg i gael gwared ar y gwres sy'n cael ei gynhyrchu. Mae gwastraff lefel uchel yn dadfeilio i ffurfio gwastraff lefel ganolig dros filoedd o flynyddoedd.