Allyriadau ymbelydrol
Mae tri phrif fath o ymbelydredd ïoneiddioMae pelydrau-X yn enghreifftiau o ymbelydredd ïoneiddio. Gall ymbelydredd ïoneiddio achosi mwtaniadau mewn DNA. yn cael eu hallyrru o niwclewsY niwclews yw rhan ganolog atom. Mae'n cynnwys protonau a niwtronau, a'r rhan fwyaf o fàs yr atom. ansefydlog atom ymbelydrolAtom â niwclews ansefydlog sy’n gallu torri’n rhydd neu newid, gan ryddhau ymbelydredd.. Y rhain yw ymbelydredd alffa, beta a gama.
Ymbelydredd alffa
Mae ymbelydredd alffa wedi'i wneud o gronyn alffaMath o belydriad niwclear sy’n cynnwys 2 broton a 2 niwtron. Mae’r un fath â niwclews heliwm.. Mae gronyn alffa yn union yr un fath â niwclews atom heliwm, sef dau protonGronyn isatomig gyda gwefr bositif a màs cymharol o 1. a dau niwtronGronyn isatomig heb ei wefru, gyda màs o 1 o’i gymharu â’r proton..
Atom heliwm
- 2 broton
- 2 niwtron
- 2 electron
Gronyn alffa
- 2 broton
- 2 niwtron
- 0 electron
Ymbelydredd beta
Electronau â llawer o egni sy'n cael eu hallyrru o'r niwclews yw ymbelydredd betaYmbelydredd sy’n cael ei achosi gan ronynnau beta. Mae gronyn beta yn electron sy’n cael ei fwrw allan o niwclews pan mae niwtron yn troi’n broton.. Dydy'r electronGronyn isatomig yw electron, sydd â gwefr negatif a'i fàs yn ddibwys o'i gymharu â phroton a niwtron. hyn ddim wedi dod o'r plisg electronau neu'r lefelau egni o gwmpas y niwclews. Yn lle hynny, maen nhw'n ffurfio wrth i niwtron hollti’n broton ac electron. Yna, mae'r electron yn saethu allan o'r niwclews yn gyflym, gan adael y proton newydd ar ôl yn y niwclews.
Pelydriad gama
Math o ymbelydredd electromagnetigEgni sy'n teithio fel tonnau ar ffurf meysydd trydanol a magnetig newidiol yw ymbelydredd electromagnetig. â tonfeddHyd ton unigol. Y pellter rhwng pwynt ar un don a’r un pwynt ar y don nesaf. fer iawn ac amleddAmledd ton yw sawl gwaith yr eiliad mae'n cael ei hailadrodd. Uned amledd yw'r hertz, Hz. uchel yw pelydriad gamaYmbelydredd electromagnetig amledd uchel sy’n cael ei allyrru yn ystod dadfeiliad ymbelydrol. Mae angen sawl centimetr o blwm neu fetrau o goncrit i’w amsugno.. Mae'n debyg i fathau eraill o belydriad electromagnetig, fel golau gweladwy a phelydrau-X, sy'n gallu teithio dros bellter hir.