Mae dadfeiliad ymbelydrol yn digwydd ar hap
Mae niwclewsY niwclews yw rhan ganolog atom. Mae'n cynnwys protonau a niwtronau, a'r rhan fwyaf o fàs yr atom.atom ymbelydrolAtom â niwclews ansefydlog sy’n gallu torri’n rhydd neu newid, gan ryddhau ymbelydredd. yn ansefydlog. Maen nhw'n dadelfennu ac yn troi'n fath cwbl wahanol o atom. Dadfeiliad ymbelydrol yw hyn.
Er enghraifft, mae Carbon-14 yn dadfeilio i ffurfio Nitrogen-14 wrth allyrru ymbelydredd beta. Wrth i'r dadelfeniad hwn ddigwydd, mae actifedd unrhyw ffynhonnell ymbelydrol yn lleihau. Rydyn ni'n mesur yr actifedd hwn mewn becquerelau.
Dydy hi ddim yn bosibl rhagfynegi pryd mae atom unigol yn mynd i ddadfeilio. Ond mae hi’n bosibl mesur pa mor hir mae hi'n ei gymryd i hanner niwclysau darn o ddefnydd ymbelydrol ddadfeilio. Yr amser hwn yw hanner oesYr amser mae'n ei gymryd i nifer y niwclysau ymbelydrol mewn sampl haneru. Mae’n cael ei ddiffinio hefyd fel yr amser mae’n ei gymryd i gyfradd cyfrif sampl sy’n cynnwys isotop ymbelydrol ostwng i hanner ei lefel gychwynnol, neu’r amser mae’n ei gymryd i fàs sylwedd ymbelydrol ostwng i hanner ei werth cychwynnol. yr isotop ymbelydrol.
Dau ddiffiniad
Mae dau ddiffiniad o hanner oes, ond maen nhw'n golygu yr un peth yn y bôn:
- yr amser mae’n ei gymryd i nifer y niwclysau o'r isotop mewn sampl haneru
- yr amser mae'n ei gymryd i cyfradd cyfrifMesur o swm yr ymbelydredd sy'n cyrraedd canfodydd mewn cyfnod penodol. Yn cael ei ddangos fel cyfrif yr eiliad neu gyfrif y munud fel arfer. sampl sy'n cynnwys yr isotop ostwng i hanner ei lefel wreiddiol
Mae gan wahanol isotopau ymbelydrol wahanol hanner oesau. Er enghraifft, mae hanner oes Carbon-14 yn 5,715 blwyddyn, ond dim ond 20 munud yw hanner oes Ffranciwm-223.
Graffiau
Gallwn ni ganfod hanner oes sylwedd ymbelydrol drwy edrych ar graff o'r gyfradd cyfrif yn erbyn amser. Mae’r graff yn dangos cromlin dadfeiliad sylwedd ymbelydrol.
Mae'r gyfradd cyfrif yn gostwng o 80 i 40 cyfrif y munud mewn dau ddiwrnod, felly yr hanner oes yw dau ddiwrnod. Yn y ddau ddiwrnod nesaf, mae'n gostwng o 40 i 20 - mae'n haneru. Yn y ddau ddiwrnod ar ôl hynny, mae'n gostwng o 20 i 10 - mae'n haneru eto - ac yn y blaen.