Mae gan dri gronyn isatomig wahanol wefrau a masau. Mae gronynnau ymbelydrol yn dadfeilio ac yn rhyddhau ymbelydredd alffa, beta a gama - ffynonellau ymbelydredd cefndir naturiol ac artiffisial.
Mae sylweddau yn ei lwybr yn gallu amsugno ymbelydredd. Er enghraifft, dim ond rhai centimetrau mae ymbelydredd alffa yn ei deithio mewn aer, mae ymbelydredd beta yn teithio degau o gentimetrau mewn aer, ac mae pelydriad gama yn teithio pellteroedd mawr iawn.
Mae pob math o ymbelydredd yn mynd yn llai dwys wrth deithio'n bellach oddi wrth y defnydd ymbelydrol, oherwydd bod y gronynnau neu'r pelydrau yn gwasgaru.
Y mwyaf trwchus yw’r sylwedd, y mwyaf o ymbelydredd mae’n ei amsugno. Mae'r tri math o ymbelydredd yn treiddio drwy ddefnyddiau mewn gwahanol ffyrdd.
Figure caption,
Priodweddau treiddio'r gwahanol fathau o ymbelydredd
Ymbelydredd alffa
Ymbelydredd alffa yw'r lleiaf treiddiol. Mae llaw ddynol yn gallu ei atal (neu ei amsugno).
Ymbelydredd beta
Mae ymbelydredd beta yn gallu treiddio drwy aer a phapur. Mae dalen o alwminiwm yn gallu ei atal.
Pelydriad gama
Pelydriad gama yw'r mwyaf treiddigar. Mae hyd yn oed lefelau isel yn gallu treiddio drwy aer, papur neu fetel tenau. I atal lefelau uwch, mae angen llawer o gentimetrau o blwm neu lawer o fetrau o goncrit.
Figure caption,
Mesur effaith gwahanol orchuddion ar graig ymbelydrol