Mae gan dri gronyn isatomig wahanol wefrau a masau. Mae gronynnau ymbelydrol yn dadfeilio ac yn rhyddhau ymbelydredd alffa, beta a gama - ffynonellau ymbelydredd cefndir naturiol ac artiffisial.
Mae hafaliadau niwclear yn dangos dadfeiliad alffa a beta unigol.
Symbolau
Gallwn ni gynrychioli niwclewsY niwclews yw rhan ganolog atom. Mae'n cynnwys protonau a niwtronau, a'r rhan fwyaf o fàs yr atom. atom fel hyn.
\(_{Z}^{A}\textrm{X}\)
A yw'r rhif niwcleon (nifer y protonGronyn isatomig gyda gwefr bositif a màs cymharol o 1. + niwtronGronyn isatomig heb ei wefru, gyda màs o 1 o’i gymharu â’r proton.).
Z yw'r rhif atomig (nifer y protonau).
X yw'r symbol cemegol (fel sydd wedi'i ddangos yn y tabl cyfnodolCynrychioliad ar ffurf tabl o’r holl elfennau rydyn ni’n gwybod amdanyn nhw yn eu trefn ar sail rhif atomig, ee mae’r holl nwyon nobl i’w gweld ar ochr dde y tabl cyfnodol.).
Dadfeiliad alffa
Mae niwclews yn colli dau broton a dau niwtron wrth allyrru gronyn alffa. Mae hyn yn golygu:
mae'r rhif niwcleon yn lleihau o 4
mae'r rhif atomig yn lleihau o 2
Mae elfen newydd yn ffurfio, sydd ddau safle i'r chwith i'r elfen wreiddiol yn y tabl cyfnodol.
Er enghraifft, mae radon yn dadfeilio i ffurfio poloniwm wrth allyrru gronyn alffa. Dyma hafaliad y dadfeiliad ymbelydrol hwnnw.
Mewn dadfeiliad beta, mae niwtron yn troi'n broton ac electronGronyn isatomig yw electron, sydd â gwefr negatif a'i fàs yn ddibwys o'i gymharu â phroton a niwtron.. Mae'r proton yn aros yn y niwclews. Mae'r electron yn gadael yr atom â llawer o egni ar ffurf gronyn beta.
Mae gan y niwclews un proton yn fwy ac un niwtron yn llai ar ôl allyrru gronyn beta. Mae hyn yn golygu:
mae'r rhif niwcleon yn aros yr un fath
mae'r rhif atomig yn cynyddu o 1
Er enghraifft, mae Carbon-14 yn isotopIsotop yw atom elfen sydd â'r un nifer o brotonau ac electronau ond gwahanol niferoedd o niwtronau. Carbon ymbelydrol. Dyma hafaliad dadfeiliad beta Carbon-14 i ffurfio Nitrogen.