Mae gan wrthrych sy'n symud fomentwm, sef grymoedd sy’n achosi iddo newid. Mewn ffrwydrad neu wrthdrawiad ceir cadwraeth momentwm, lle bydd ei gyfanswm yn aros yr un fath.
Mae’r adran hon yn egluro sut i gyfrifo’r grymGwthio neu dynnu. Newton (N) yw uned grym. sy’n gyfrifol am newid momentwmMesur sy'n gysylltiedig â mudiant gwrthrych. Mae'n cael ei gyfrifo drwy luosi màs y gwrthrych â'i gyflymder. gwrthrych.
Cyfrifo grym
Gallwn ni ddefnyddio’r hafaliad hwn i gyfrifo grym.
rydyn ni’n mesur newid momentwm mewn cilogramau metrau yr eiliad (kg m/s)
rydyn ni’n mesur amser mewn eiliadau (s)
Question
Pa rym sydd ei angen i wneud i feic llonydd 25 kg symud ar 12 m/s mewn 5 s?
Momentwm i ddechrau = 0 × 12 = 0 kg m/s
Momentwm ar y diwedd = 25 × 12 = 300 kg m/s
Newid momentwm = 300 – 0 = 300 kg m/s
Grym = newid momentwm ÷ amser = 300 ÷ 5 = 60 N
I newid momentwm gwrthrych, galli di ddefnyddio grym bach dros amser hir, neu rym mwy dros amser byrrach. Mae hi’n anodd newid cyfeiriad tancer olew ar y môr oherwydd mae angen newid momentwm mawr, ond mae’r grym o’r llafn gwthio yn gymharol fach, felly mae hi’n cymryd amser hir.
Gallwn ni hefyd ddefnyddio’r hafaliad hwn i gyfrifo grym.