Cysyniadau mudiant pellachCadwraeth momentwm

Mae gan wrthrych sy'n symud fomentwm, sef grymoedd sy’n achosi iddo newid. Mewn ffrwydrad neu wrthdrawiad ceir cadwraeth momentwm, lle bydd ei gyfanswm yn aros yr un fath.

Part ofFfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Cadwraeth momentwm

Cyn belled â nad oes grymoedd allanol yn gweithredu ar y gwrthrychau dan sylw, mae cyfanswm y momentwm yn aros yr un fath mewn ffrwydradau a gwrthdrawiadau. Rydyn ni’n dweud bod cadwraeth yn digwydd.

Galli di ddefnyddio’r syniad hwn i gyfrifo , neu fomentwm gwrthrych mewn ffrwydrad neu wrthdrawiad.

Cyfrifiadau momentwm

Dyma enghraifft wedi’i chyfrifo.

Mae dau gerbyd rheilffordd yn gwrthdaro ac yn symud i ffwrdd gyda’i gilydd. Mae màs cerbyd A yn 12,000 kg ac mae’n symud ar 5 m/s cyn y gwrthdrawiad. Mae màs cerbyd B yn 8,000 kg ac mae’n llonydd cyn y gwrthdrawiad. Beth yw cyflymder y ddau gerbyd ar ôl y gwrthdrawiad?

Cam un

Cyfrifo’r cyfanswm momentwm cyn y digwyddiad (cyn y gwrthdrawiad).

\(\text{p} = {\text{m}}\times{\text{v}}\)

Momentwm cerbyd A cyn y gwrthdrawiad = 12,000 × 5 = 60,000 kg m/s

Momentwm cerbyd B cyn y gwrthdrawiad = 8,000 × 0 = 0 kg m/s

Cyfanswm momentwm cyn y gwrthdrawiad = 60,000 + 0 = 60,000 kg m/s

Cam dau

Cyfrifo’r cyfanswm momentwm ar ôl y digwyddiad (ar ôl y gwrthdrawiad).

Oherwydd cadwraeth momentwm, cyfanswm momentwm ar ôl y gwrthdrawiad = 60,000 kg m/s

Cam tri

Cyfrifo’r cyfanswm màs ar ôl y digwyddiad (ar ôl y gwrthdrawiad).

Cyfanswm màs = màs cerbyd A + màs cerbyd B

= 12,000 + 8,000 = 20,000 kg

Cam pedwar

Cyfrifo’r cyflymder newydd.

p = m × v, ond gallwn ni aildrefnu’r hafaliad hwn fel v = p ÷ m

Cyflymder (ar ôl y gwrthdrawiad) = 60,000 ÷ 20,000 = 3 m/s