Cysyniadau mudiant pellachTrydedd Ddeddf Newton

Mae gan wrthrych sy'n symud fomentwm, sef grymoedd sy’n achosi iddo newid. Mewn ffrwydrad neu wrthdrawiad ceir cadwraeth momentwm, lle bydd ei gyfanswm yn aros yr un fath.

Part ofFfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Trydedd Ddeddf Newton

Mae Trydedd Ddeddf Mudiant Newton yn ymwneud â grymoedd hafal a dirgroes. Mae’n datgan, "Os yw A yn rhoi grym ar B, mae B yn rhoi grym hafal ond dirgroes ar A."

Mae pob grym yn bodoli mewn ‘pâr Newton’ sy’n cynnwys grym arwaith a grym adwaith hafal i’r cyfeiriad dirgroes.

Mae’r fideo hwn yn dangos sut mae hyn yn gweithio mewn dwy sefyllfa bywyd go iawn gyda byrddwyr a rocedi.

Trydedd Ddeddf Newton

Er bod cadwraeth momentwm yn digwydd, os ydyn ni’n cyfrifo egni cinetig cyn ac ar ôl y gwrthdrawiad hwn, rydyn ni’n gweld nad yw cadwraeth egni cinetig yn digwydd. Mae hwn yn wrthdrawiad anelastig.

Os yw’r egni cinetig cyn ac ar ôl y gwrthdrawiad yr un fath, mae’r gwrthdrawiad yn elastig. Mae rhyngweithiadau rhwng moleciwlau yn wrthdrawiadau perffaith elastig. Yn y rhan fwyaf o achosion eraill (ee peli snwcer), dydy gwrthdrawiadau ddim yn berffaith elastig - mae rhywfaint o egni cinetig yn cael ei golli ond rhaid i ni wneud cyfrifiad i brofi hyn.