Gallwn ni ragfynegi mudiant gwrthrych drwy ddadansoddi’r grymoedd sy'n gweithredu ar wrthrych. Mae grymoedd anghytbwys yn gallu arwain at newid buanedd neu newid cyfeiriad.
Os yw cyflymder gwrthrych yn newid, mae'n cyflymu. cyflymiadCyflymiad yw cyfradd newid cyflymder. Caiff ei fesur mewn metrau yr eiliad sgwâr. Cyflymiad = y newid yn y cyflymder ÷ yr amser mae'n ei gymryd. yw'r newid cyflymder bob eiliad ac rydyn ni'n ei fesur mewn m/s2.
Mae'r fformiwla hon yn dangos y berthynas rhwng cyflymiad, newid cyflymder a'r amser mae'r newid yn ei gymryd.
\(\text{cyflymiad}=\frac{\text{newid cyflymder}}{\text{amser mae'n ei gymryd}}=\frac{\text{v - u}}{\text{t}}\)
v = cyflymder terfynol.
u = cyflymder cychwynnol.
Question
Beth yw cyflymiad car os yw'n dechrau ar 10 m/s ac yn cyrraedd 30 m/s mewn 4 eiliad?
Newid cyflymder = v – u
30 – 10 = 20 m/s
Cyflymiad = newid cyflymder ÷ amser
= 20 m/s ÷ 4 s = 5 m/s2
Question
Beth sy’n digwydd os yw'r car yn arafu? Alli di gyfrifo'r cyflymiad?
Darganfydda beth yw cyflymiad y car os yw'n dechrau ar 20 m/s ac yn cyrraedd 12 m/s mewn 2 eiliad.
Y newid cyflymder yw v – u, sef 12 – 20 = -8 m/s.
Y cyflymiad yw, newid cyflymder ÷ amser, sef -8 m/s ÷ 2 s = -4 m/s2.
Mae arwydd minws yn golygu bod y car yn arafu.
Question
Mae car yn gallu cyflymu o 22 m/s (50 mya) i 30 m/s (70 mya) mewn 4 eiliad. Cyfrifa'r cyflymiad.
Newid cyflymder v – u = 30 – 22 = 8 m/s.
Cyflymiad = newid cyflymder ÷ amser = 8 m/s ÷ 4 s = 2 m/s2.
Question
Mae beic modur yn mynd o 0 m/s (disymudedd) i 40 m/s mewn 8 eiliad. Cyfrifa'r cyflymiad.
Newid cyflymder = v – u
= 40 – 0 = 40 m/s
Cyflymiad = newid cyflymder ÷ amser
= 40 m/s ÷ 8 s = 5 m/s2.
Question
Mae sbortscar yn gallu cyflymu o 0 i 26 m/s (60 mya) mewn 5 eiliad. Beth yw cyflymiad y car?
Newid cyflymder v – u
= 26 – 0 = 26 m/s.
Cyflymiad = newid cyflymder ÷ amser
= 26 m/s ÷ 5 s = 5.2 m/s2.
Question
Mae beiciwr yn brecio ac yn arafu o 11 m/s i 3 m/s mewn 2 eiliad. Cyfrifa gyflymiad y beic.