Pellter, buanedd a chyflymiadDiogelwch ffyrdd – pellteroedd stopio ceir

Gallwn ni ragfynegi mudiant gwrthrych drwy ddadansoddi’r grymoedd sy'n gweithredu ar wrthrych. Mae grymoedd anghytbwys yn gallu arwain at newid buanedd neu newid cyfeiriad.

Part ofFfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Diogelwch ffyrdd – pellteroedd stopio ceir

Stopio’n ddiogel

3 car wedi’u labelu ‘1. Mae’r gyrrwr yn gweld rhwystr’, ‘2. Mae’r gyrrwr yn pwyso’r brêc’, a ‘3. Mae’r car yn stopio’. O dan y car mae ‘Pellter meddwl’, ‘Pellter brecio’ a ‘Cyfanswm y pellter stopio’.

Pan mae'n rhaid i gar stopio, mae'r cyfanswm wedi'i wneud o ddau bellter – y , a'r .

Pa ffactorau sy'n effeithio ar bellter meddwl a brecio?

Y pellter meddwl yw'r pellter mae'r car yn ei deithio wrth i'r gyrrwr ymateb.

Y pellter brecio yw'r pellter mae'r car yn ei deithio ar ôl i'r gyrrwr roi ei droed ar y brêc.

Pellter meddwl:

  • buanedd
  • pethau sy'n tynnu sylw'r gyrrwr, ee ffonau symudol
  • alcohol
  • cyffuriau
  • blinder
  • gwelededd

Pellter brecio:

  • buanedd
  • breciau wedi treulio
  • ffordd wlyb
  • màs y car
  • teiars wedi treulio
  • ffordd rewllyd

Mae'r pellter meddwl yn dibynnu ar y gyrrwr. Mae cyffuriau, alcohol, pethau sy'n tynnu sylw'r gyrrwr a blinder yn gallu effeithio ar hwn. Bydd buanedd y car hefyd yn effeithio ar y pellter hwn. Mae'r pellter brecio hefyd yn dibynnu ar fuanedd y car, màs y car, faint o draul sydd ar y breciau a'r teiars, ac arwyneb y ffordd. Bydd gan gar cyflym, trwm â theiars a breciau wedi treulio, ar ffordd wlyb neu rewllyd, bellter brecio mawr.

Buanedd car a'i bellter stopio

2 gar wedi’u labelu ’30 mya’ a ’60 mya’. Ar gyfer car 1, mae’r pellter meddwl yn 9 metr a’r pellter brecio yn 14 metr. Ar gyfer car 2, mae’r pellter meddwl yn 18 metr a’r pellter brecio yn 56 metr.

Efallai y bydd gofyn i ti chwilio am batrymau mewn pellteroedd stopio car, a sut maen nhw'n newid gyda buanedd y car. Edrych ar y diagram ac ateb y cwestiwn.

Question

Mae car yn dyblu ei fuanedd o 30 mya i 60 mya. Sut mae hyn yn effeithio ar:

a) Y pellter meddwl

b) Y pellter brecio

c) Y cyfanswm pellter stopio