Gallwn ni ragfynegi mudiant gwrthrych drwy ddadansoddi’r grymoedd sy'n gweithredu ar wrthrych. Mae grymoedd anghytbwys yn gallu arwain at newid buanedd neu newid cyfeiriad.
Part ofFfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd
Dyma beth mae graff cyflymder-amser yn ei gynrychioli. Mae'n dy helpu di i gyfrifo amser ymateb a'r pellter mae'n ei gymryd i gerbyd stopio.
Edrych ar y graff ac ateb y cwestiynau a ganlyn.
Beth yw amser ymateb y gyrrwr?
0.8 s
Beth oedd buanedd y cerbyd cyn dechrau brecio?
15 m/s.
Pa bellter deithiodd y cerbyd wrth i'r gyrrwr ymateb (y pellter meddwl)?
Yr arwynebedd o dan ran fflat y graff, sef 15 m/s × 0.8 s = 12 m.
Pa mor hir gymerodd y car i stopio?
Yr amser rhwng 0.8 eiliad a 4 eiliad, sef 3.2 eiliad.
Beth yw’r pellter brecio?
Arwynebedd y triongl.
½ × sail × uchder = ½ × 3.2 s × 15 m/s = 24 m
Beth yw’r cyfanswm pellter stopio?
12 m + 24 m = 36 m