Pellter, buanedd a chyflymiadGraffiau mudiant cyflymder-amser

Gallwn ni ragfynegi mudiant gwrthrych drwy ddadansoddi’r grymoedd sy'n gweithredu ar wrthrych. Mae grymoedd anghytbwys yn gallu arwain at newid buanedd neu newid cyfeiriad.

Part ofFfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Graffiau mudiant cyflymder-amser

Graffiau cyflymder-amser

Mae graffiau cyflymder-amser yn dangos sut mae cyflymder (neu fuanedd) gwrthrych sy'n symud yn newid gydag amser.

Mae'r graffiau hyn hefyd yn dangos a yw'r gwrthrych yn symud ar fuanedd cyson, neu'n cyflymu, yn arafu, neu'n llonydd.

Beth sy'n cael ei ddangos ar graff cyflymder-amser?

  • Rydyn ni'n dangos cyflymiad â llinell syth sy'n codi.
  • Rydyn ni'n dangos arafiad â llinell syth sy'n gostwng.
  • Rydyn ni'n dangos buanedd cyson â llinell lorweddol.
  • Mae llinell lorweddol ar hyd yr echelin-\(\text{x}\) yn dangos bod y buanedd yn sero, sy'n golygu bod y cerbyd wedi stopio, neu yn llonydd.
Graff buanedd-amser. Mae’r llinell wedi’i rhannu’n 4 rhan. Mae rhan 1 yn dangos cyflymiad unffurf. Rhan 2 yn dangos buanedd cyson. Rhan 3 yn dangos cyflymiad unffurf. Rhan 4 yn dangos arafiad.

Gallwn ni ddefnyddio graddiant y graff, sef pa mor serth ydyw, i gyfrifo'r cyflymiad. Mae llinell serth yn golygu cyflymiad sydyn.

Mae llinell tuag i fyny sy'n crymu i fynd yn fwy serth yn golygu bod y cerbyd yn cyflymu ar gyfradd sy'n cynyddu. Rydyn ni'n galw hyn yn gyflymiad anunffurf.

Mae llinell tuag i fyny sy'n crymu i fynd yn fflat yn golygu bod y cerbyd yn cyflymu ar gyfradd sy'n lleihau tuag at fuanedd cyson.

Graff cyflymder-amser. Mae’r llinell wedi’i rhannu’n 4 rhan: Rhan 1) Wedi’i labelu â cyflymu. 2) Wedi’i labelu â buanedd/cyflymder cyson. 3) Wedi’i labelu â cyflymu. 4) Wedi’i labelu ag arafu.

Cofia, mae graddiant y llinell yn cynrychioli cyfradd y cyflymiad.

Cyflymiad = newid cyflymder ÷ amser.

Edrych ar y graff. Cyflymiad y cerbyd yn y 10 eiliad cyntaf yw

(40 m/s – 0 m/s) ÷ 10 s = 4 m/s2.

Cyflymiad y cerbyd rhwng 20 a 30 eiliad yw

(60 m/s – 40 m/s) ÷ 10 s = 2 m/s2.

Cyflymiad y cerbyd rhwng 30 a 50 eiliad yw

(0 m/s – 60 m/s) ÷ 20 s = -3 m/s2 (arafu).

Y pellter teithio yw'r arwynebedd dan y graff.

Graff cyflymder-amser. Mae’r arwynebedd o dan y graff wedi’i rhannu’n 4 rhan, ac wedi ei liwio.

Yn y 10 eiliad cyntaf, dyma arwynebedd y triongl, ½ × 10 s × 40 m/s = 200 m.

O 10 i 20 eiliad, dyma arwynebedd y petryal, 10 s × 40 m/s = 400 m.

O 20 i 30 eiliad, dyma arwynebedd y petryal a'r triongl, (10 s × 40 m/s) + (1/2 × 10 s × 20 m/s) = 500 m.

O 30 i 50 eiliad, dyma arwynebedd y triongl, ½ × 20 s × 60 m/s = 600 m.

I ddarganfod cyfanswm y pellter teithio rydyn ni'n adio'r rhain at ei gilydd.

200 m + 400 m + 500 m + 600 m = 1,700 m

Gallwn ddod o hyd i'r buanedd cyfartalog drwy rannu'r cyfanswm pellter â'r cyfanswm amser,

1,700 m ÷ 50 s = 34 m/s.

Question

Edrych ar y graff cyflymder-amser hwn, ac ateb y cwestiwn sy'n dilyn.

Graff cyflymder-amser. Mae’r llinell wedi’i rhannu’n 2 ran. Mae’n dechrau ar amser 0 a chyflymder 12, ac yn parhau ar yn un cyflymder am 20 eiliad. O 20 i 30 eiliad mae’r cyflymder yn lleihau o 12 i 0

Disgrifia'r daith hon mor fanwl â phosibl. Rho werthoedd buanedd, cyflymiad a phellter teithio.

Mae'r cwestiwn hwn yn gofyn am ymateb estynedig, hynny yw rhaid i dy ateb fod yn eithaf hir.