Rhuddiad cosmolegol y golau o alaethau
Mae symudiad yn gallu ymestyn neu gywasgu tonfeddi sain a golau.
Er enghraifft, os yw ambiwlans yn teithio tuag at arsylwr, bydd yn clywed traw uwch – nodyn ag amledd uwch. Mae tonfeddHyd ton unigol. Y pellter rhwng pwynt ar un don a’r un pwynt ar y don nesaf. y sain yn cael ei chywasgu gan symudiad yr ambiwlans tuag at yr arsylwr.
Fodd bynnag, pan mae'r ambiwlans yn mynd oddi wrth yr arsylwr, mae'n clywed traw is – nodyn ag amledd is. Mae tonfedd y sain yn cael ei hymestyn gan y symudiad oddi wrth yr arsylwr.
Fydd gyrrwr yr ambiwlans ddim yn clywed gwahaniaeth yn nhraw'r sain. Does dim symudiad cymharol rhyngddo a'r sain.
Pan mae gwrthrych sy’n allyrru tonnau'n dechrau symud, mae'r symudiad yn gallu achosi i'r tonnau ymestyn neu gywasgu. symudiad DopplerY newid mewn tonfedd (ac amledd) sy’n digwydd yn sgil symudiad cymharol ffynhonnell y tonnau. yw hyn.
Yn yr un modd, mae tonfeddi golau o wrthrych sy'n allyrru golau yn cael eu hymestyn gan symudiad oddi wrth yr arsylwr. Rhuddiad yw hyn.
Mae tonfeddi golau o wrthrych sy'n allyrru golau yn cael eu cywasgu gan symudiad tuag at yr arsylwr. Dadleoliad glas yw hyn.
Edwin Powell Hubble (1889 – 1953)

Seryddwr o America oedd Edwin Hubble - rydyn ni'n ystyried mai ef oedd un o gosmolegwyr pwysicaf yr 20fed ganrif.
Sylwodd Hubble fod llinellau sbectra amsugno galaethau yn dangos yr un patrwm â sbectrwm amsugno'r Haul – yn dangos bod yr un elfennau yn bresennol, ond roedd y llinellau wedi'u symud tuag at ochr goch y sbectrwm gweladwy.
Sylwodd fod y rhuddiad hwn yn golygu bod tonfeddi'r llinellau amsugno tywyll wedi'u hymestyn neu eu gwneud yn hirach.
Ei gasgliad oedd bod y symudiad neu'r ymestyniad hwn yn bodoli oherwydd bod yr galaethClwstwr o filiynau o sêr, sy’n cael eu dal gyda’i gilydd gan ddisgyrchiant. yn symud oddi wrthym ni. Mae'r rhuddiad cosmolegolSymudiad y sbectrwm amsugno o’r galaethau i’r rhan goch, weledol o’r sbectrwm. Mae’n cael ei achosi gan olau sy'n pasio drwy ofod, gan ymestyn y tonfeddi. hwn yn digwydd oherwydd bod y bwlch rhwng yr alaeth bell ac arsylwyr ar y Ddaear yn cynyddu, ac mae hyn yn dystiolaeth bod y Bydysawd yn ehangu.