Y BydysawdDeddf Hubble

Drwy astudio sbectra amsugno atomig, gallwn ni ganfod cyfansoddiad cemegol sêr. Mae hyn yn dangos bod galaethau'n symud oddi wrthyn ni mewn Bydysawd sy'n ehangu.

Part ofFfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Deddf Hubble

Edrychodd Edwin Hubble ar y golau o alaethau pellach oddi wrth y Ddaear a sylwodd fod y llinellau amsugno tywyll yn dangos rhuddiad mwy. Ei gasgliad oedd bod gan y galaethau pell ruddiad mwy oherwydd eu bod yn symud i ffwrdd yn gyflymach.

Pum sbectra amsugno wedi’u labelu â: Galaeth bell iawn, Galaeth bell, Galaeth agos, Seren agos a Sbectrwm cyfeirio labordy.

Defnyddiodd Hubble y rhuddiad i gyfrifo cyflymder galaethau o'i gymharu â'u pellter oddi wrth y Ddaear.

Pan roddodd y data mewn graff, roedd yn dangos llinell syth drwy'r tarddbwynt.

Graff pellter-cyflymder yn dangos bod y galaethau pellaf i ffwrdd yn symud i ffwrdd ar gyflymder cyflymach na’r galaethau agosaf atom ni.

Mae hyn yn dangos bod cyflymder galaeth mewn cyfrannedd union â'i phellter oddi wrth y Ddaear. Mewn geiriau eraill, os yw pellter yr alaeth oddi wrthyn ni'n dyblu, mae ei hefyd yn dyblu.

Dyma Ddeddf Hubble.

Cysonyn Hubble “H” yw graddiant y graff. Mae \(\frac{1}{\text{H}}\) yn rhoi oed y Bydysawd – yr amcangyfrif presennol yw tuag 13.7 biliwn o flynyddoedd.

Gan fod y cyflymder enciliol yn cynyddu gyda phellter yr alaeth, mae'n awgrymu bod yr holl alaethau wedi tarddu o un pwynt.